Plaid Ryddfrydol (DU)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Y Blaid Ryddfrydol (DU))

Plaid wleidyddol a dyfodd allan o blaid y Wigiaid i fod yn un o dair plaid fawr y DU oedd y Blaid Ryddfrydol. Unodd y blaid â Phlaid y Democratiaid Cymdeithasol (SDP) yn yr wythdegau i ffurfio plaid newydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Uchafbwynt hanes y blaid oedd o ganol y 19g hyd y Rhyfel Byd Cyntaf dan y prif weinidogion Rhyddfrydol William Ewart Gladstone, Sir Henry Campbell-Bannerman, Clement Asquith a David Lloyd George. Yn y cyfnod hwnnw y Rhyddfrydwyr oedd y blaid fwyaf o lawer yng Nghymru ac yn rhan o'r mudiad Radicalaidd oedd yn galw am ymreolaeth i Gymru ac Iwerddon. Arweiniodd anghydfod rhwng Lloyd George ac Asquith at ymraniad yn y blaid ar ôl y Rhyfel Mawr a chollodd y Rhyddfrydwyr dir i'r Blaid Lafur a gymerodd le'r Rhyddfrydwyr fel gwrthblaid yn 1922.

Mwynheodd y blaid gyfnod o adfywiad dan arweinyddiaeth Jo Grimond (19561957) ac wedyn Jeremy Thorpe (1967-1976) tan i'r olaf orfod ymddiswyddo yn sgîl sgandal am ei fywyd personol. Dan David Steel daeth y blaid mewn cytundeb â'r Blaid Lafur a ffurfiwyd y Pact Lib-Lab i gadw'r Torïaid allan o lywodraeth (19771978). Yn 1981 ffurfiwyd cynghrair gyda'r SDP a arweiniodd yn y pen draw at lawnsio plaid newydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Siart yn dangos canrannau'r bleidlais boblogaidd i bleidiau gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon, 1832–2005.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]