Jeremy Thorpe

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
John Jeremy Thorpe
1965 Jeremy Thorpe.jpg
Ganwyd (1929-04-29)29 Ebrill 1929
Surrey, Lloegr
Bu farw 4 Rhagfyr 2014(2014-12-04) (85 oed)
Yn enwog am Arweinydd Y Blaid Ryddfrydol 1967-76
Addysg Coleg Eton
Teitl Y Gwir Anrhydeddus
Plaid wleidyddol Y Blaid Ryddfrydol
Priod Caroline Allpass
(pr. 1968–1970, ei marwolaeth)
Marion Stein
(pr. 1973–2014, ei marwolaeth)
Plant Rupert Thorpe
Perthnasau John Henry Thorpe (tad)
John Norton-Griffiths (taid drwy ei fam)

Gwleidydd o Loegr oedd John Jeremy Thorpe (29 Ebrill 19294 Rhagfyr 2014), a fu'n arweinydd y Blaid Ryddfrydol rhwng 1967 ac 1976, ac AS dros Ogledd Dyfnaint rhwng 1958 a 1979.

Daeth ei yrfa gwleidyddol i ben i bob pwrpas pan honodd 'cyfaill' (sef Norman Scott) iddo gael perthynas hoyw gyda Thorpe ym mlynyddoedd cynnar y 1960au. Yr adeg honno, roedd gweithredoedd hoyw'n anghyfreithlon. Ymddiswyddodd Thorpe o'i swydd fel Arweinydd ei blaid, gan fynnu mai celwydd oedd yr honiadau; yna fe'i cyhuddwyd gan yr heddlu o gynllwynio i ladd Scott. Fe'i cfawyd yn ddieuog, ond effeithiodd hyn ar ei yrfa, ac ni chafodd ei ailethol yn yr etholiad cyffredinol. Prin y gwnaeth unrhyw ymddangosiad cyhoeddus wedi hynny.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]