Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd
Democratic Unionist Party | |
---|---|
![]() |
|
Arweinydd | Arlene Foster |
Cadeiryddman | Maurice Morrow |
Sefydlydd | Ian Paisley |
Dirprwy Arweinydd | Nigel Dodds |
Sefydlwyd | 30 Medi 1971 |
Rhagflaenwyd gan | Protestant Unionist Party |
Pencadlys | 91 Dundela Avenue Belfast, Swydd Antrim, Gogledd Iwerddon |
Rhestr o idiolegau | Cenedlaetholdeb Brydeinig[1] Unoliaethrwydd Prydeinig (British unionism) |
Sbectrwm gwleidyddol | Canol-chwith[2] i'r Asgell-dde[3] |
Cysylltiadau Ewropeaidd | Dim |
Grŵp yn Senedd Ewrop | Non-Inscrits |
Lliw | Coch, glas a gwyn |
Tŷ'r Cyffredin |
10 / 18
|
Tŷ'r Arglwyddi |
4 / 776
|
Senedd Ewrop |
1 / 3
|
Cynulliad GI |
28 / 90
|
Llywodraeth Leol |
125 / 462
|
Gwefan | |
mydup.com |
Plaid wleidyddol fwyaf Gogledd Iwerddon yw Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (neu DUP; Saesneg: Democratic Unionist Party), sy'n blaid Unoliaethol. Ei arweinydd cyfredol yw Arlene Foster. Sefydlwyd y blaid gan Ian Paisley yn 1971 wedi iddo enillodd sedd seneddol Gogledd Antrim yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1970.
Prif amcan y blaid unoliaethol hon yw cadw talaith Gogledd Iwerddon o fewn y Deyrnas Unedig a gwrthwynebu'r symudiadau at gydweithredu a rhannu grym â Gweriniaeth Iwerddon.
Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017 enilodd y DUP 10 sedd (a Sinn Féin 7); gan i Theresa May fethu a chyrraedd mwyafrif llawn, unodd Ceidwadwyr y DU gyda'r DUP i ffurfio partneriaeth answyddogol, mewn senedd grog. O ran polisiau cymdeithasol, mae'r DUP hefyd yn geidwadol. Mae hefyd wedi ymgyrchu:
- yn erbyn erthylu
- yn erbyn priodas un-rhyw
- yn erbyn 'gweithredoedd hoyw'
- dros adael yr Undeb Ewropeaidd
- yn erbyn Cytundeb Belffast, 1998
- creodd adran filwol o'r enw'r Third Force ar ddiwedd y 1970au ac a esblygodd yn Ulster Resistance yn 1986
- ↑ "Unionist bid to be UK 'kingmakers' unsettles some in Northern Ireland". Reuters. http://uk.reuters.com/article/2015/04/09/uk-britain-election-nireland-idUKKBN0N01P520150409. Adalwyd 11 Gorffennaf 2015.
- ↑ "Who are the DUP? What you need to know about the Democratic Unionist Party", gan Tom Burnett. The Sentinel. 9 Mehefin 2017. Adalwyd 9 Mehefin 2017.
- ↑ Cowell-Meyers, Kimberly. "Democratic Unionist Party (DUP), Encyclopædia Britannica