Swydd Antrim

Oddi ar Wicipedia
Swydd Antrim
Mathcounty of Northern Ireland, sir hanesyddol y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAntrim Edit this on Wikidata
PrifddinasAntrim Edit this on Wikidata
Poblogaeth618,108 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGogledd Iwerddon Edit this on Wikidata
SirGogledd Iwerddon Edit this on Wikidata
GwladBaner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon
Arwynebedd2,844 km² Edit this on Wikidata
GerllawLough Neagh, Cefnfor yr Iwerydd, Sianel y Gogledd Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSwydd Down, Swydd Derry, Swydd Tyrone, Swydd Armagh Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.865°N 6.28°W Edit this on Wikidata
Map

Un o'r chwe sir sy'n ffurfio Gogledd Iwerddon yw Swydd Antrim (Gwyddeleg: Contae Aontroma, Saesneg: County Antrim). Mae'n rhan o dalaith Wlster. Yn y gogledd a'r dwyrain mae culfor yn ei gwahanu oddi wrth yr Alban, ac yn hanesyddol roedd cysylltiad agos rhwng yr ardal yma a gorllewin yr Alban; roedd y ddwy ochr i'r culfor yn rhan o deyrnas Dál Riata. Antrim yw'r dref sirol.

Gyda phoblogaeth o tua 566,000, Antim yw'r ail o ran poblogaeth o 32 sir ynys Iwerddon. Yn Swydd Antrim y mae'r rhan fwyaf o ddinas Belffast, gyda'r gweddill ohoni yn Swydd Down. Mae'r Giant's Causeway yn Safle Treftadaeth y Byd, tra mae Bushmills yn enwog am gynhyrchu chwisgi. Ceir gwasanaeth fferi o borthladd Larne i Cairnryan a Troon yn yr Alban a Fleetwood yn Lloger.

Lleoliad Swydd Antrim yng Ngogledd Iwerddon

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]