Cothnais

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Cothnais yng ngogledd yr Alban

Mae Cothnais (Gaeleg yr Alban: Gallaibh, Sgoteg: Caitnes,[1] Saesneg: Caithness) yn sir hanesyddol, yn sir cofrestru, ac yn ardal rhaglawiaeth yn Yr Alban.

Mae Cothnais yn ffinio gyda’r sir hanesyddol Sutherland ac fel arall yn ffinio gyda’r môr. Mae ffin y tir yn dilyn cefn deuddwr ac mae’n cael ei groesi gan ddwy ffordd, yr A9 a’r A836, ac un rheilffordd sef Rheilffordd y Gogledd Pell. Ar draws y Pentland Firth mae fferïau yn cysylltu Cothnais â’r Ynysoedd Erch, ac mae ganddi awyrborth yn Wick. Mae’r ynys Stroma o fewn Cothnais.

Enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Daw’r elfen ’Caith’ yn Caithness o enw’r llwyth Pictaidd a elwir yn Cat neu Catt. Daw’r elfen ‘-ness’ o’r Hen Norseg am ‘bentir’. Roedd y Llychlynwyr yn galw’r ardal yn ‘Katanes’,[2] sef ‘pentir pobl y Catt’.

Ystyr yr enw Gaeleg am Gothnais, Gallaibh, yw ‘ymhlith y dieithriaid’, hynny yw, y Llychlynwyr.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae arfordir Cothnais yn gartref i nythfeydd mawr, rhyngwladol bwysig o adar môr, ac mae dyfroedd Pentland Firth a Môr y Gogledd yn cynnal amrywiaeth fawr o fywyd morol. Yng Nghothnais mae’r ehangder mwyaf o orgors yn Ewrop. 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]