Fleetwood

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Fleetwood
Fleetwood - Mar 2008 - Marine Hall and Gardens from the Mount.jpg
Math Tref, Plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddol Wyre
(Ardal a Bwrdeisdref)
Daearyddiaeth
Sir Swydd Gaerhirfryn
(Sir seremonïol)
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau 53.923°N 3.015°W Edit this on Wikidata
Cod SYG E04010589 Edit this on Wikidata
Cod OS SD333479 Edit this on Wikidata
Cod post FY7 Edit this on Wikidata

Tref a phlwyf sifil yn Swydd Gaerhirfryn, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Fleetwood. Mae'n gorwedd ar lan Bae Morecambe.

Mae tramffordd yn cysylltu Fleetwood â Blackpool.

Mae Caerdydd 271.3 km i ffwrdd o Fleetwood ac mae Llundain yn 332.2 km. Y ddinas agosaf ydy Caerhirfryn sy'n 20.5 km i ffwrdd.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl Llyfr Domesday (1086), cantref Amounderness oedd ar ardal adeg hynny, ac yn eiddo i Baron Roger de Poictou, aelod o fyddin y Normaniaid ym 1066. Pan gafodd o ei ddiarddel, rhoddwyd y tir i Theobald Walter, ac yn y pen draw i’r brenin, a gwerthwyd y tir gan Harri VIII yn ystod Diddymu’r Mynachlogydd[1].

Etifeddodd Syr Peter Hesketh stad Rossall ym 1824 a phenderfynodd greu porthladd a chyrchfan wyliau. Gofynnodd y pensaer Decimus Burton i gynllunio'r dref. Agorwyd marchnad ym 1840. Yn yr un flwyddyn, goleuwyd Goleudy Pharos a'r Goleudy Is, cynlluniwyd gan Burton[2]. Ffurfiwyd Rheilffordd Cwmni Rheilffordd, Harbwr a Phorthladd Preston a Wyre, ac agorwyd rheilffordd rhwng Preston a Fleetwood ar 15 Gorffennaf 1840[1]. Adeiladwyd Pier Fleetwood ym 1906, 600 troedfedd o hyd. Agorwyd y pier ym 1911. Llosgwyd y pier ym 1952. Cwblhawyd gwaith trwsio ym 1958.[2]

Adeiladwyd Gwesty North Euston ym 1841, yn hannergylch â olygfeydd dros aber Afon Wyre a Bae Morecambe. Ar y pryd doedd ‘na ddim reilffordd ar arfordir gorllewin Lloegr at Yr Alban, felly cyrhaeddodd teithwyr Fleetwood ar drenau i gymryd cwch i Ardrossan, wedyn ar drên arall i Glasgow. Adeiladwyd rheilffordd i’r Alban ym 1847. Agorwyd Marchnad Fleetwood ym 1840.[1] Cynlluniwyd goleudai Pharos ac Is gan Burton, adeiladwyd ym 1840. Adeiladwyd goleudy’r Wyre gan Alexander Mitchell rhwng 1839 a 1840 ar draethell 2 filltir o’r arfordir.[3] Distrywiwyd y goleudy’n rhannol yn 2017.[4]

Agorwyd cangen reilffordd i Blackpool, yn lleihau’r nifer o deithwyr i Fleetwood.

Pasiwyd deddfau i adeiladu palmentydd a goleuadau. Estynwyd mordeithiau i Ynys Manaw, Derry, Belfast ac Ardrossan.

Daeth Fleetwood yn un o’r porthladdau pysgota mwyaf ym Mhrydain, yn canolbwyntio ar gegddu. Adeiladwyd y doc ym 1877, yn costio £250,000. Creuwyd porthladd cynhwysydd ar safle’r hen orsaf reilffordd, a dechreuodd gwasanaeth rhwng Fleetwood a Larne dwywaith bob dydd ym 1975. Cymerodd Lein Stena drosodd yn 2004, yn hwylio teirgwaith yn ddyddiol. Daeth y wasanaeth i ben yn 2010, efo colled o 140 o swyddi.

Daeth Doc Wyre yn farina i gychod hwylio ym 1995, ac adeiladwyd canolfan manwerthu a thai ar yr ardal glanio.

Adeiladwyd y tramffordd rhwng Blackpool a Fleetwood yn yr 1890au.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]