Belffast

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Belfast)
Jump to navigation Jump to search
Belffast
City Hall Belfast Queen Victoria.jpg
Belfast City Coat of Arms.svg
Arwyddair Pro Tanto Quid Retribuamus? Edit this on Wikidata
Math dinas, ardal Gogledd Iwerddon, dinas fawr Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Afon Farset Edit this on Wikidata
Poblogaeth 333,871 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Bonn, Hefei Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ardal Belffast Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon
Arwynebedd 114.995472 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 54.5964°N 5.93°W Edit this on Wikidata
Prifysgol y Frenhines, Belffast

Belffast (Gwyddeleg: Béal Feirste; Saesneg: Belfast) yw dinas fwyaf a phrifddinas Gogledd Iwerddon. Mae dros hanner miliwn o bobol yn byw yn ardal Belffast. Mae'n borthladd ar lannau Afon Lagan lle mae'r afon honno'n llifo i Lough Belffast, ar y ffin rhwng Swydd Antrim a Swydd Down. Mae'n gartref i iard longau Harland and Wolfe ac yn brif ganolfan diwydiannol y dalaith. Ym Melffast ceir prif adeiladau gweinyddiaeth Gogledd Iwerddon, gan gynnwys Neuadd Dinas Belffast (1906) ac Adeilad y Senedd (Stormont) (1932). Rhoddwyd ei siarter i Brifysgol y Frenhines ym 1909.

Am flynyddoedd roedd yr enw 'Belffast' bron yn gyfystyr â 'Helyntion Gogledd Iwerddon', gyda'r ddinas a'i chymuned wedi'u rhannu ar linellau ethnig a chrefyddol. Lladdwyd rhai cannoedd o bobl ar ei strydoedd rhwng dechrau'r 1970au a'r 1990au.

Yr Helyntion[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd dros 1,600 o bobl eu lladd yn ystod Yr Helyntion, trais gwleidyddol yn y ddinas rhwng 1969 a 2001.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r ddinas yn gartref i dîm rygbi Ulster sy'n chwarae yn y Pro14. Maent yn chwarae yn Stadiwm Kingspan.

Lleolir nifer o brif dimau pêl-droed Gogledd Iwerddon a chlybiau hynaf y gamp yn yr holl ynys yn y ddinas. Yn eu mysg mae Cliftonville F.C..

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

NIShape.gif Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.