Prifysgol y Frenhines, Belffast

Oddi ar Wicipedia
Prifysgol y Frenhines, Belffast
Adeilad Lanyon, Prifysgol y Frenhines
Mathprifysgol ymchwil gyhoeddus Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1845 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBelffast Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.5842°N 5.9347°W Edit this on Wikidata
Map

Lleolir Prifysgol y Frenhines, sy'n aelod o Grŵp Russell, ym Melffast, Gogledd Iwerddon. Fe'i sefydlwyd ym 1845 fel un o dri coleg Prifysgol y Frenhines yn Iwerddon; roedd y lleill yng Nghorc a Galway. Prifysgol anenwadol oedd hon, am fod Coleg y Drindod, Dulyn ar gyfer myfyrwyr Anglicanaidd yn unig ar y pryd. Cynlluniwyd y prif adeilad ym 1849 gan Syr Charles Lanyon. Mae dau o gyn-fyfyrwyr y brifysgol wedi ennill Gwobr Nobel, sef Seamus Heaney (Gwobr Lenyddol Nobel 1995) a David Trimble (Gwobr Heddwch Nobel 1998).[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg)  History And Heritage. Prifysgol y Frenhines, Belffast. Adalwyd ar 6 Ionawr 2019.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]