Seamus Heaney
Seamus Heaney | |
---|---|
![]() |
|
Geni | Seamus Heaney 13 Ebrill 1939 Castledawson, Gogledd Iwerddon |
Marw | 30 Awst 2013 (74 oed) Dulyn, Iwerddon |
Galwedigaeth | Bardd, dramodydd, cyfieithydd |
Cenedligrwydd | Gwyddel |
Addysg | Coleg Sant Columb, Prifysgol Queens, Belffast |
Bardd Gwyddelig yn ysgrifennu yn Saesneg oedd Seamus Justin Heaney (13 Ebrill 1939 – 30 Awst 2013).[1]
Ganed Heaney ger Castledawson yng Ngogledd Iwerddon, yr hynaf o naw o blant. Addysgwyd ef yng Ngholeg St Columb, lle dysgodd Wyddeleg, yna mewn ysgol breswyl Gatholig yn Derry. Yn 1957 aeth i Brifysgol Queens, Belffast i astudio Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, cyn hyfforddi fel athro. Cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf, Eleven Poems, ym 1965. Ym 1976 symudodd i Ddulyn i ddysgu yng Ngholeg Carysfort.
Ym 1995 dyfarnwyd Gwobr Lenyddol Nobel iddo.
Ar ei farwolaeth yn 2013, roedd gwerthiant ei lyfrau'n ddau-draean o gyfanswm llyfrau beirdd cyfoes gwledydd Prydain. [2] Mae ei waith yn ymwneud ag Iwerddon, yn enwedig Gogledd Iwerddon, ble'i ganwyd. Pan soniodd am ei blentyndod un tro, dywedodd: "I learned that my local County Derry experience, which I had considered archaic and irrelevant to 'the modern world' was to be trusted. They taught me that trust and helped me to articulate it."[3] Mae ei ddwy gyfrol Death of a Naturalist (1966) a Door into the Dark (1969) yn ddisgrifiadau o fywyd pob dydd ei filltir sgwar.[3]
Cynnwys
Beirniadaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Disgrifiodd Robert Pinsky Heaney gan ddweud, "with his wonderful gift of eye and ear Heaney has the gift of the story-teller".[4] Galwodd Robert Lowell ef "the most important Irish poet since Yeats" a chafwyd sylwadau tebyg gan nifer o feirniaid llenyddol gan gynnwys yr awdur John Sutherland pan ddywedodd mai Heaney oedd "the greatest poet of our age".[2] Ar ei farwolaeth yn Awst 2013 disgrifiwyd ef yn yr Independent fel "probably the best-known poet in the world".[5]
Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfrolau o Farddoniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Death of a Naturalist, Faber & Faber
- Door into the Dark, Faber & Faber
- Wintering Out, Faber & Faber
- Stations, Ulsterman Publications
- North, Faber & Faber
- Field Work, Faber & Faber
- Station Island, Faber & Faber
- The Haw Lantern, Faber & Faber
- Seeing Things, Faber & Faber
- The Spirit Level Faber & Faber
- Electric Light, Faber & Faber
- District and Circle, Faber & Faber
Casgliadau o farddoniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Selected Poems 1965-1975, Faber & Faber (1980)
- New Selected Poems 1966-1987, Faber & Faber (1990)
- Opened Ground: Poems 1966-1996, Faber & Faber (1998)
Opera[golygu | golygu cod y dudalen]
- The Burial at Thebes 2004 drama gan Seamus Heaney a seilwyd ar Antigone, 1942 drama gan Jean Anouilh (1910-1987)
- The Burial At Thebes (2008) opera gan Dominique Le Gendre i libretto gan Seamus Heaney a Derek Walcott
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Poet Seamus Heaney dies aged 74 Gwefan BBC News. 30 Awst 2013
- ↑ 2.0 2.1 Sutherland, John (19 Mawrth 2009). "Seamus Heaney deserves a lot more than £40,000". The Guardian (Guardian Media Group). http://www.guardian.co.uk/books/booksblog/2009/mar/19/seamus-heaney-david-cohen-prize. Adalwyd 19 Ebrill 2010.
- ↑ 3.0 3.1 "Biography". Poetry Foundation. http://www.poetryfoundation.org/bio/seamus-heaney.
- ↑ Pinsky, Robert Poetry and The World The Eco Press Hopewell ISBN 088001217X
- ↑ Craig, Patricia (30 Awst 2013). "Seamus Heaney obituary: Nobel Prize-winning Irish Poet". The Independent (Independent Print Limited). http://www.independent.co.uk/arts-entertainment/books/news/seamus-heaney-obituary-nobel-prizewinning-irish-poet-8791807.html. Adalwyd 30 Awst 2013.