Antigone (Anouilh)
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Jean Anouilh |
Iaith | Ffrangeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1946 |
Genre | tragedy |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Drama gan y dramodydd Ffrangeg Jean Anouilh (1910–1987) a gyhoeddwyd ym 1942 yw Antigone. Un o'i 'dramâu tywyll newydd' ydyw, ond seilwyd hi ar hen glasuron Groeg, yn arbennig y ddrama o'r un enw, Antigone gan Soffocles. Ystyr ei henw yw 'heb ildio' neu 'heb ymgrymu'.
Mae fersiwn Ffrangeg arall o Antigone (1922), gan Jean Cocteau ymhlith nifer fawr a addasiadau o'r gwaith gwreiddiol.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Ym mytholeg Roeg, roedd Antigone yn ferch i Oedipus (Brenin Thebau) a Jocasta. Bu i Jocasta, ei mam, lladd ei hun, a thynnodd Oedipus ei lygaid ei hun drwy anffawd a ddaeth i'r teulu. Crwydrodd Antigone a'i thad fel cardotwyr wedyn ond dychwelodd hi i Thebau wedi ei farwolaeth. Yno roedd ei hewythr yn frenin a threfnwyd i Antigone briodi ei chefnder Haemon. Ond wedi brwydr rhwng dau frawd Antigone, a'r ddau wedi eu lladd mae anffawd yn disgyn arni eto. Yn ôl y gred, ni fyddai fyth heddwch i enaid un sy ddim wedi cael angladd addas. Ond dyma benderfyniad y Brenin am gorff un o frodyr Antigone. Marwolaeth oedd y cosb am y rhai a feiddiai cynnal unrhyw ddefod i'r corff. Ac wrth gwrs dyna’r union beth a wnaeth Antigone. Oherwydd ei huchel dras roedd rhaid iddi wneud y defodau priodol a cholli ei bywyd i, hapusrwydd gyda Haemon a pharhau a'r rhwyg ac anffawd yn y teulu. Er mwyn urddas ei theulu, yn hytrach nag hapusrwydd ei theulu, mae Antigone yn aberthu ei hun er mwyn i enaid ei brawd gorwedd mewn hedd.
Mae rhan bwysig yn nrama Anouilh i’r Corws. Swyddogaeth y Corws yn draddodiadol oedd egluro wrth y gynulleidfa yr hyn sy wedi digwydd oddi ar y llwyfan. Mae Corws Anouilh, trwy siarad yn uniongyrchol â 'r gynulleidfa, yn eu gwneud nhw'n ymwybodol o'u rhôl yn dehongli moesau'r oes - a safiad rhag gormes Unben - cofier mai 1942, a Ffrainc dan y Natsiaid, oedd dyddiad y ddrama.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Antigone, Jean Anouilh, trosiad gan Roy Owen. 1976. Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0614-4 (ar gael yn rhad ac am ddim ar wefan GPC)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Antigone, sy'n cynnwys rhestr lawn o'r dramâu sy'n seiliedig ar ei hanes.