Antigone

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Antigone

Cymeriad ym mytholeg Roeg yw Antigone. Fe'i phortreadir yn nramâu Groeg Soffocles (497–406 CC) ac eraill.

Roedd Antigone yn ferch i Oedipus (Brenin Thebai) a Jocasta. Bu i Jocasta, ei mam, lladd ei hun, a thynnodd Oedipus ei lygaid ei hun drwy anffawd a ddaeth i'r teulu. Crwydrodd Antigone a'i thad fel cardotwyr wedyn ond dychwelodd hi i Thebai wedi ei farwolaeth. Yno roedd ei hewythr yn frenin a threfnwyd i Antigone briodi ei chefnder Haemon. Ond wedi brwydr rhwng dau frawd Antigone, a'r ddau wedi eu lladd mae anffawd yn disgyn arni eto. Yn ôl y gred, ni fyddai fyth heddwch i enaid un sy ddim wedi cael angladd addas. Ond dyma benderfyniad y Brenin am gorff un o frodyr Antigone. Marwolaeth oedd y cosb am y rhai a feiddiai cynnal unrhyw ddefod i'r corff. Ac wrth gwrs dyna’r union beth a wnaeth Antigone.

Oherwydd ei huchel dras roedd rhaid iddi wneud y defodau priodol a cholli ei bywyd hi, hapusrwydd gyda Haemon a pharhau a'r rhwyg ac anffawd yn y teulu. Er mwyn urddas ei theulu, yn hytrach nag hapusrwydd ei theulu, mae Antigone yn aberthu ei hun er mwyn i enaid ei brawd gorwedd mewn hedd.

Fersiynau o Antigone[golygu | golygu cod y dudalen]

Trosiadau Cymraeg o waith Soffocles gyda Antigone yn brif gymeriad ynddynt[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]