Prifysgol Califfornia, Berkeley
Gwedd
| Math | prifysgol ymchwil gyhoeddus, prifysgol grant tir, sefydliad addysg cyhoeddus yr Unol Daleithiau, Llyfrgell Adneuol y Cenhedloedd Unedig |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Prifysgol Califfornia |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 37.8719°N 122.2583°W |
| Niferoedd | 40,173, 45,057 person, 41,155 |
![]() | |
Prifysgol gyhoeddus yn ninas Berkeley, Califfornia, Unol Daleithiau America, yw Prifysgol Califfornia, Berkeley. Fe'i sefydlwyd ym 1868. Dyma gampws hynaf yn y system o brifysgolion sy'n ffurfio Prifysgol Califfornia.
Yn 2020 roedd ganddi 42,347 o fyfyrwyr (20,799 o israddedigion a 11,548 o ôl-raddedigion)[1] a 1,525 o staff academaidd.[2]
Mae Berkeley yn gartref i lawer o sefydliadau ymchwil blaenllaw, gan gynnwys Sefydliad Ymchwil y Gwyddorau Mathemategol a Labordy Gwyddorau Gofod. Sefydlodd ac mae'n parhau i gynnal cysylltiadau agos â thri labordy cenedlaethol yn Berkeley, Livermore a Los Alamos. Mae wedi chwarae rhan bwysig mewn llawer o ddatblygiadau gwyddonol, gan gynnwys Prosiect Manhattan a darganfod 16 o elfennau cemegol.

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "UC Berkeley Quick Facts"; UC Berkeley; adalwyd 24 Hydref 2020
- ↑ "Academics"; UC Berkeley; adalwyd 24 Hydref 2020
