Prifysgol Califfornia

Oddi ar Wicipedia
Prifysgol Califfornia
ArwyddairLet there be light Edit this on Wikidata
Mathsystem o brifysgolion taleithiol, prifysgol grant tir Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1868 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadOakland, Califfornia, Santa Barbara Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Cod postCA 94607 Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganFrederick Low Edit this on Wikidata
Peidiwch â chymysgu y sefydliad hwn â Phrifysgol Talaith Califfornia neu Brifysgol De Califfornia.

System o brifysgolion cyhoeddus yn nhalaith Califfornia, Unol Daleithiau America, yw Prifysgol Califfornia. Mae'r system yn cynnwys campysau yn Berkeley, Davis, Irvine, Los Angeles, Merced, Riverside, San Diego, San Francisco, Santa Barbara, a Santa Cruz, ynghyd â sawl canolfan ymchwil arbenigol a chanolfannau tramor.

Sefydlwyd Prifysgol California ar 23 Mawrth 1868. Fe'i lleolwyd yn ninas Oakland cyn symud i ddinas Berkeley ym 1873. Dros amser, sefydlwyd sawl lleoliad cangen. Rhwng 1951 a 1960 cychwynnodd Prifysgol California broses o roi mwy o ymreolaeth i'w champysau cyfansoddol, ac roedd gan bob un ei ganghellor ei hun.

Yn 2020 roedd gan Brifysgol California 10 campws, 273,179 o fyfyrwyr, 22,700 o staff academaidd, 154,900 o staff arall, a dros 2 filiwn o gyn-fyfyrwyr yn dal yn fyw.[1] Mae'r cympysau wedi'u gwasgaru ledled y dalaith, o Davis yn y gogledd i San Diego, 516 milltir (830 km) i'r de.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The University of California at a Glance" (PDF). Prifysgol Califfornia. Cyrchwyd 24 Hydref 2020.