Prifysgol Talaith Califfornia
Math | system o brifysgolion taleithiol, prifysgol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Long Beach |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 33.7639°N 118.2011°W |
- Peidiwch â chymysgu y sefydliad hwn â Phrifysgol Califfornia.
Un o dri sefydliad addysg uwch cyhoeddus yng Nghaliffornia, yr Unol Daleithiau yw Prifysgol Talaith Califfornia (Saesneg: California State University neu CSU). Mae'r brifysgol yn gorfforedig yn Ymddiriedolwyr Prifysgol Talaith Califfornia (The Trustees of the California State University).
Mae gan y brifysgol 23 campws a drost 450,000 o fyfyrwyr sy'n cael eu cefnogi gan dros 47,000 aelod o'r cyfadrannau a staff.[1] Hon yw'r system brifysgol fwyaf yn yr Unol Daleithiau.[2]
Addysgir tua 60 y cant o athrawon a 40 y cant o raddedigion peirianneg y dalaith yn y brifysgol. Addysgir hefyd nifer fwy o raddedigion busnes, amaeth, cyfathrebu, iechyd, addysg a gweinyddiaeth gyhoeddus na cholegau a phrifysgolion eraill Califfornia wedi eu cyfuno. Gwobrwyir tua hanner graddau baglor a threuan o raddau meistr Califfornia gan y brifysgol hon pob blwyddyn.
Ers 1961, mae bron 2.5 miliwn o alumni wedi ennill rhyw radd neu'i gilydd yn y brifysgol. Ceir dros 1,800 o wahanol raglenni gradd mewn tua 240 o bynciau gwahanol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The California State University homepage. The California State University (2006-02-13).
- ↑ CSU Facts 2006. The California State University (2006-06-29).
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) California State University
- (Saesneg) History of CSU Archifwyd 2012-02-05 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) California Faculty Association
- (Saesneg) California State University Emeritus and Retired Faculty Association
- (Saesneg) California State Student Association