Prifysgol De Califfornia
Gwedd
| Arwyddair | Palmam qui meruit ferat |
|---|---|
| Math | prifysgol breifat, prifysgol ymchwil, sefydliad addysgol preifat nid-am-elw, cyhoeddwr mynediad agored |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Niferoedd | 48,500 |
![]() | |
| Sefydlwydwyd gan | Robert M. Widney |
Prifysgol ymchwil breifat yn Los Angeles yn nhalaith Califfornia, Unol Daleithiau America, yw Prifysgol De California (Saesneg: University of Southern California, USC). Fe'i sefydlwyd yn 1880 gan Robert M. Widney,[1] a hi yw'r brifysgol ymchwil breifat hynaf yng Nghaliffornia. Mae ganddi tua 21,000 o fyfyrwyr israddedig a 28,500 o fyfyrwyr ôl-raddedig. Dyma'r cyflogwr preifat mwyaf yn ardal Los Angeles.
Cyn-fyfyrwyr
[golygu | golygu cod]- Frank Gehry (g. 1929), pensaer Canadaidd
- Neil Armstrong (1930-2012), gofodwr Americanaidd
- George Lucas (g. 1944), cyfarwyddwr ffilm Americanaidd
- Shinzo Abe (1954-2022), gwleidydd Japanaidd
- America Ferrera (g. 1984), actores Americanaidd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The Legacy of Judge Robert Maclay Widney" (PDF) (yn Saesneg). USC University Communications. 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-04-21. Cyrchwyd 21 Ebrill 2021.
