David Trimble

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
David Trimble
David Trimble at Lisburn Seed Group benefit, Hillsborough Castle, Christmas 2007 crop.jpg
Ganwyd 15 Hydref 1944 Edit this on Wikidata (73)
Bangor, Gogledd Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater Prifysgol y Frenhines, Belffast Edit this on Wikidata
Gwaith Gwleidydd, academydd Edit this on Wikidata
Aelod o Urdd Oren Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Heddwch Nobel Edit this on Wikidata

William David Trimble, Barwn Trimble (ganed 15 Hydref 1944) oedd arweinydd Plaid Unoliaethol Ulster rhwng 1995 a 2005. Roedd ei gefnogaeth i Gytundeb Belffast yn annerbyniol i lawer yn y blaid, a bu ymraniad. Daeth Trimble yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon yn y llywodraeth a sefydlwyd ar y cyd a'r cenedlaetholwyr dan y cytundeb rhannu grym, ond yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005, collodd yr UUP bump o'i chwe sedd yn San Steffan. Collodd Trimble ei hun ei sedd, ac ymddiswyddodd. Daeth Syr Reg Empey yn arweinydd y blaid yn ei le, ond collodd y blaid ei safle fel y brif blaid Unoliaethol i Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd.

Yn 1998 dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel iddo ef a John Hume o'r SDLP am eu cyfraniad i'r cytundeb heddwch yng Ngogledd Iwerddon.

Ym mis Mehefin 2006, daeth yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi fel Barwn Trimble o Lisagarvey yn Swydd Antrim. Yn Ebrill 2007, cyhoeddodd ei fod yn gadael yr UUP ac yn ymuno â Phlaid Geidwadol y DU.

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Harold McCusker
Aelod Seneddol dros Upper Bann
19902005
Olynydd:
David Simpson
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Prif Weinidog Gogledd Iwerddon
19982001
Olynydd:
Reg Empey
(actio)
Rhagflaenydd:
Reg Empey
(actio)
Prif Weinidog Gogledd Iwerddon
20012002
Olynydd:
Dim
(o 2007 Ian Paisley)