John Hume
John Hume | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 18 Ionawr 1937 ![]() Derry, Gogledd Iwerddon, y Deyrnas Unedig ![]() |
Bu farw | 3 Awst 2020 ![]() Derry ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, Aelod Seneddol ![]() |
Swydd | Leader of the Social Democratic and Labour Party, Aelod Senedd Ewrop, Member of the Parliament of Northern Ireland, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Member of the 1st Northern Ireland Assembly, Member of the 1982–1986 Northern Ireland Assembly, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, member of the 1973–74 Northern Ireland Assembly ![]() |
Plaid Wleidyddol | SDLP ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch Nobel, Seán MacBride Peace Prize, Marchog-Cadlywydd Urdd Sant Grigor Fawr, Gandhi Peace Prize, Gwobr y Pedwar Rhyddid - Rhyddid Mynegiant, honorary doctor of the University of Rennes 2, Peace Prize of Hesse, Gwobr James Joyce, Dinasyddiaeth Anrhydeddus Palermo, honorary doctorate of Trinity College, Dublin ![]() |
Cyn-wleidydd o Ogledd Iwerddon fu yn arweinydd y blaid SDLP o 1970 hyd 1979 oedd John Hume (18 Ionawr 1937 – 3 Awst 2020)[1]. Ystyrir ef yn un o brif arweinyddion y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon.
Ganed ef yn Derry, ac aeth i Goleg Sant Padrig, Maynooth i hyfforddi i fod yn offeiriad Catholig. Ni chwblhaodd ei astudiaethau ar gyfer yr offeiriadaeth, ond cafodd radd M.A. gan y coleg, cyn mynd yn athro. Daeth yn ffigwr amlwg yn y mudiad hawliau sifil yn Derry yn niwedd y 1960au. Etholwyd ef i senedd Gogledd Iwerddon fel Cenedlaetholwr Annibynnol yn 1969.
Roedd yn un o sylfaenwyr plaid yr SDLP yn 1970, ac yn 1979 olynodd Gerry Fitt fel ei harweinydd. Bu'n rhan o drafodaethau gyda'r llywodraeth Brydeinig a Sinn Féin, y credir iddynt arwain at gytundeb rhwng Prydain a Gweriniaeth Iwerddon yn 1985, ac yna gadoediad yr IRA yn 1994.
Yn 1998 dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel iddo ef a David Trimble o'r UUP am eu cyfraniad i'r cytundeb heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Ymddeolodd fel arweinydd yr SDLP yn 2001, a chyhoeddodd ei ymddeoliad o wleidyddiaeth yn 2004.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ John Hume: Nobel Peace Prize winner dies aged 81 , BBC News, 3 Awst 2020.
Senedd Gogledd Iwerddon | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Eddie McAteer |
Aelod Seneddol dros Foyle 1969 – 1972 |
Olynydd: prorogued 1972 dilewyd y Senedd 1973 |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Foyle 1983 – 2005 |
Olynydd: Mark Durkan |