Gerry Fitt

Oddi ar Wicipedia
Gerry Fitt
Ganwyd9 Ebrill 1926 Edit this on Wikidata
Belffast Edit this on Wikidata
Bu farw26 Awst 2005 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi, Leader of the Social Democratic and Labour Party, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, member of the 1973–74 Northern Ireland Assembly, Aelod Seneddol Gogledd Iwerddon, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolSDLP Edit this on Wikidata
PriodSusan Gertrude Anne Doherty Edit this on Wikidata
PlantJoan Fitt, Eileen Fitt, Patsy Fitt, Betty Fitt, Geraldine Fitt Edit this on Wikidata

Gwleidydd o Ogledd Iwerddon ac arweinydd cyntaf y blaid SDLP oedd Gerard "Gerry" Fitt (9 Ebrill 1926 - 26 Awst 2005).

Ganed Fitt yn ninas Belffast, a bu'n llongwr rhwng 1941 a 1953. Etholwyd ef i Gyngor Dinas Belffast yn 1958 fel aelod o Blaid Lafur Iwerddon. Yn 1962 enillodd sedd yn Senedd Gogledd Iwerddon, gan gipio'r sedd oddi ar yr UUP. Yn 1964, roedd yn un o sylfaenwyr y Blaid Lafur Weriniaethol, ac enillodd sedd Gorllewin Belffast yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1966.

Ym mis Hydref 1968, roedd gyda gorymdaith hawliau sifil pan gurwyd ef gan swyddogion yr RUC. Yn Awst 1970 daeth yn arweinydd cyntaf plaid newydd yr SDLP. Dan y Cytundeb Rhannu Grym, daeth yn ddirprwy arweinydd Senedd Gogledd Iwerddon yn 1973. Fodd bynnag, teimlai rhai o fewn yr SDLP nad oedd yn cynrychioli safbwynt y cenedlaetholwyr yn ddigonol, ac yn 1980 olynwyd ef fel arweinydd gan John Hume. Gadawodd y blaid wedi iddo gytuno i drafodaethau ar y cyfansoddiad gyda llywodraeth Prydain heb i lywodraeth Gweriniaeth Iwerddon dderbyn gwahoddiad. Ymddiswyddodd o'r blaid wedi i'w chynhadledd wrthdroi'r penderfyniad. Yn ddiweddarach, daeth yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi fel Barwn Fitt.

Senedd Gogledd Iwerddon
Rhagflaenydd:
William Oliver
Aelod Seneddol dros Ddoc Belffast
19621972
Olynydd:
prorogued 1972
dilewyd y Senedd 1973
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
James Kilfedder
Aelod Seneddol dros Orllewin Belffast
19661983
Olynydd:
Gerry Adams