Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Un o bleidiau gwleidyddol Gogledd Iwerddon yw Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (Saesneg: Democratic Unionist Party). Ei arweinydd cyfredol yw'r Parchedig Ian Paisley, a enillodd sedd seneddol Gogledd Antrim i'r blaid newydd pan gafodd ei sefydlu yn 1970.

Prif amcan y blaid Unoliaethol hon yw cadw talaith Gogledd Iwerddon o fewn y Deyrnas Unedig a gwrthwynebu symudiadau at gydweithredu ehangach a rhannu grym â Gweriniaeth Iwerddon.

Society.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
NIShape.gif Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.