Plaid Unoliaethol Ulster

Oddi ar Wicipedia
Plaid Unoliaethol Ulster
ArweinyddRobin Swann MLA
LlywyddMay Steele
CadeiryddThe Lord Empey
Sefydlwyd3 Mawrth 1905
Rhagflaenwyd ganIrish Unionist Alliance
PencadlysStrandtown Hall,
2-4 Belmont Road,
Belfast, County Down,
Gogledd Iwerddon
Asgell yr ifancYoung Unionists
Rhestr o idiolegauUnoliaethwyr Prydeinig[1]
Ceidwadaeth[1]
Gwrth-Ewrop[1]
Sbectrwm gwleidyddolCanol-Dde[2]
Partner rhyngwladolNone
Cysylltiadau EwropeaiddCynghrair Ceidwadwyr a Diwygwyr Ewrop
Grŵp yn Senedd EwropCeidwadwyr a Diwygwyr Ewrop
LliwCoch, glas a gwyn
Tŷ'r Cyffredin
0 / 18
Tŷ'r Arflwyddi
2 / 784
Senedd Ewrop
1 / 3
Cynulliad Gogledd Iwerddon
10 / 90
Cynghorau lleol
84 / 462
Gwefan
Gwefan swyddogol

Plaid Unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon yw Plaid Unoliaethol Ulster (Saesneg: Ulster Unionist Party neu UUP).

Hanes[golygu | golygu cod]

Fel rhan o’r cytundeb rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r cenedlaetholwyr Gwyddelig yn 1921, cytunwyd i rannu Iwerddon. Daeth 26 o siroedd Iwerddon yn annibynnol yn 1922 fel Gwladwriaeth Rydd Iwerddon, tra parhaodd chwech sir yn y gogledd-ddwyrain (allan o’r naw sir sy’n ffurfio Wlster) yn rhan o'r Deyrnas Unedig gyda senedd ddatganoledig yn Stormont. Daeth Syr James Craig yn Brif Weinidog. O 1929 ymlaen, Plaid Unoliaethol Ulster oedd y brif blaid Unoliaethol, a bu mewn grym am hanner can mlynedd.

Dros y blynyddoedd bu trigolion Catholig Gogledd Iwerddon dan anfanteision o ran cael swyddi, cael tai a materion eraill, gyda Protestaniad yn cael eu ffafrio. Yn y 1960au, ceisiodd y Prif Weinidog Terence O'Neill newid rhywfaint ar y system, ac wedi iddo ef ymddiswyddo, parhawyd hyn gan ei olynydd, James Chichester-Clark, ond gwrthwynebid hyn gan lawer o Unoliaethwyr, megis Ian Paisley.

David Trimble oedd arweinydd y blaid rhwng 1995 a 2005. Roedd ei gefnogaeth i Gytundeb Belffast yn annerbyniol i lawer yn y blaid, a bu ymraniad. Daeth Trimble yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon yn y llywodraeth a sefydlwyd ar y cyd a'r cenedlaetholwyr dan y cytundeb rhannu grym, ond yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005, collodd yr UUP bump o'i chwe sedd yn San Steffan. Collodd Trimble ei hun ei sedd, ac ymddiswyddodd. Daeth Syr Reg Empey yn arwenydd y blaid yn ei le, ond collodd y blaid ei safle fel y brif blaid Unoliaethol i Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "NORTHERN IRELAND / UK". Parties and Elections in Europe. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-29. Cyrchwyd 2015-05-07.
  2. Ari-Veikko Anttiroiko; Matti Mälkiä (2007). Encyclopedia of Digital Government. Idea Group Inc (IGI). tt. 394–. ISBN 978-1-59140-790-4.
Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.