Cynulliad Gogledd Iwerddon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cynulliad Gogledd Iwerddon
Tionól Thuaisceart Éireann
Norlin Airlan Assemblie
6ed Cynulliad
Coat of arms or logo
Gwybodaeth gyffredinol
Math Unicamera
Arweinyddiaeth
Llefarydd Robin Newton, DUP
ers 12 Mai 2016
Cyfansoddiad
Aelodau 90
NIAssembly2017.svg
Grwpiau gwleidyddol

'

Tâl £48,000 a chostau
Etholiadau
Etholiad diwethaf 2 Mawrth 2017
Etholiad nesaf 5 Mai 2022 (neu gynt)
Man cyfarfod
NI Assembly chamber.png
Siambr y Cynulliad
Man cyfarfod
StormontGeneral.jpg
Adeilad y Senedd, Stormont, Belfast
Gwefan
niassembly.gov.uk

Cynulliad Gogledd Iwerddon (Gwyddeleg: Tionól Thuaisceart Éireann,[1]) yw'r corff deddfwriaethol datganoledig ar gyfer materion mewnol Gogledd Iwerddon. Mae'n cwrdd yn Adeilad y Senedd (Stormont), Belffast.

Mae'n un o ddau sefydliad "cyd-ddibynol" (mutually inter-dependent) a grewyd yn 1998 gan Gytundeb Gwener y Groglith, yr ail sefydliad yw Cyngor Gweinidogion y Gogledd/De, ar y cyd gyda Gweriniaeth Iwerddon. Pwrpas y cytundeb hwn oedd tawelu 'Yr Helyntion' milwrol a fu yng Ngogledd Iwerddon am gyfnod o 30 mlynedd. Mae Cynulliad Gogledd Iwerddon wedi'i ethol yn ddemocrataidd o 108 o aelodau a elwir yn 'Aelodau Cynulliad Deddfwriaethol (Gogledd Iwerddon)' (byrfodd arferol: MLA). Defnyddir math o sytem pleidlais sengl drosglwyddadwy sydd hefyd yn ymgorffori'r system Cynrychiolaeth gyfrannol. Penodir y Gweinidogion i Bwyllgor Gwaith Cynulliad Gogledd Iwerddon drwy rannu pwer, gan ddefnyddio dull D'Hondt, sy'n sicrhau fod gan y ddwy brif garfan (yr Unoliaethwyr a'r Cenedlaetholwyr) ran o'r gacen.

Ychwanegwyd at bwerau'r Cynulliad ar 12 Ebrill 2010, pan gafodd y Cynulliad bwerau'n ymwneud â'r Heddlu a Chyfraith.

Gohiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gohiriwyd y Cynulliad ar sawl achlysur, gyda'r gohiriad hiraf rhwng 14 Hydref 2002 a 7 Mai 2007. Yn ystod y cyfnodau hyn, trosglwyddir holl bwerau'r Cynulliad i Swyddfa Gogledd Iwerddon, ac felly'n cael ei weinyddu gan Lywodraeth Prydain.[2]

11 Chwefror – 30 Mai 2000
10 Awst 2001 (gohiriad 24 awr)
22 Medi 2001 (gohiriad 24 awr)
14 Hydref 2002 – 7 Mai 2007

Yn Awst 2015 roedd Unoliaethwyr Ulster (UUP) yn ystyried rhoi’r gorau i rannu grym pwerau yng Ngogledd Iwerddon, a ffurfio gwrthblaid eu hunain yn dilyn honiadau y gallai’r IRA fod yn weithredol o hyd. Daw’r penderfyniad yn sgil asesiad gan wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon (PSNI) fod elfennau o’r IRA yn dal i weithredu, yn groes i Gytundeb Gwener y Groglith. Dywedodd Prif Gwnstabl gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, George Hamilton fod posiblirwydd cryf fod rhai o aelodau'r IRA fod wedi bod ynghlwm â llofruddiaeth Kevin McGuigan. Ond yn ôl Gerry Adams, arweinydd y blaid Sinn Fein roedd yr IRA wedi "mynd i ffwrdd". Galwodd y Gweinidog dros Gyfiawnder, Frances Fitzgerald, am "arolwg newydd" o weithgareddau’r IRA gan yr heddlu.

Aelodau[golygu | golygu cod y dudalen]

Manylwyd ar aelodaeth y Cynulliad yn Neddf Gogledd Iwerddon 1998. Yn wreiddiol roedd gan y Cynulliad 108 aelod (MLAs) a etholwyd o 18 etholaeth wyth-aelod. Yn dilyn y Assembly Members (Reduction of Numbers) Act (Northern Ireland) 2016, cafwyd gostyngiad yn nifer yr aelodau ymhob etholaeth o 6 i 5.[3] Felly, pan gynhaliwyd Etholiad Cyffredinol Gogledd Iwerddon ym Mawrth 2017, roedd cyfanswm o 90 aelod.[4]

Canran y seddi yn etholiad Mawrth 2017, gan Genedlaetholwyr, Unoliaethwyr ac Eraill.

Etholiad Cyffredinol Gogledd Iwerddon 2017[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd yr etholiad ar 2 Mawrth 2017. Yn gefndir i hyn roedd Refferendwm Brexit, pan bleidleisiodd mwyafrif pobl Gogledd Iwerddon dros aros yn yr UE. Galwyd yr etholiad yn dilyn ymddiswyddiad Dirprwy Brif Weinidod y Cynulliad, sef Martin McGuinness (Sinn Féin) oherwydd ei iechyd ac mewn protest oherwydd sgandal 'Ymgyrch y Gwres Adnewyddadwy' dan arweiniad gan Unoliaethwyr. Gan nad apwyntiwyd neb yn ei le gan y cenedlaetholwyr, roedd yn rhaid, yn ôl y Ddeddf, alw etholiad. Hwn oedd y 6ed etholiad ers ail-sefydlu'r Cynulliad yn 1998.

Roedd yr etholiad hon yn garreg filltir bwysig yng ngwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon gan ei bod y tro cyntaf i'r Cenedlaetholwyr ethol mwy o aelodau na'r Unoliaethwyr. Etholwyd 28 DUP a 10 UUP yn rhoi cyfanswm o 38 o Unoliaethwyr; etholwyd 27 aelod o Sinn Féin a 12 SDLP yn rhoi cyfanswm o 39 aelod.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriaduau[golygu | golygu cod y dudalen]