Terence O'Neill
Terence O'Neill | |
---|---|
Ganwyd | 10 Medi 1914 Llundain |
Bu farw | 12 Mehefin 1990 Hampshire |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, gwas sifil, person milwrol |
Swydd | Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Aelod Seneddol Gogledd Iwerddon, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop |
Plaid Wleidyddol | Plaid Unoliaethol Ulster |
Tad | Arthur O'Neill |
Mam | Annabel Crewe-Milnes |
Priod | Jean O'Neill, Lady O'Neill of the Maine |
Plant | Patrick Arthur Ingham O'Neill, Penelope Ann O'Neill |
Perthnasau | Bamber Gascoigne |
Terence Marne O'Neill (10 Medi 1914 – 12 Mehefin 1990) oedd pedwerydd Prif Weinidog Gogledd Iwerddon.
Ganed Terence O’Neill yn Llundain, yn fab i'r Capten Arthur O'Neill, yr Aelod Seneddol cyntaf i'w ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Aeth ef a'i deulu i fyw i Ogledd Iwerddon yn 1945, ac yn 1946 etholwyd ef i Senedd Gogledd Iwerddon dros Blaid Unoliaethol Ulster (UUP).
Yn 1963, olynodd Syr Basil Brooke fel Prif Weinidog Gogledd Iwerddon. Ceisiodd wella'r berthynas rhwng Protestaniaid a Chatholigion, ond bu gwrthwynebiad i hyn gan rai Protestaniaid. Gwahoddodd y Taoiseach (Prif Weinidog Gweriniaeth Iwerddon), Seán Lemass, i Belffast i gynnal trafodaethau; gwrthwynebwyd hyn yn chwyrn gan rai Unoliaethwyr, yn arbennig Ian Paisley.
Yn 1968, dechreuodd yr ymgyrch hawliau sifil yng Ngogledd Iwerddon. Ceisiodd O'Neill wneud newudiadau i gyfarfod a rhai o'u gofynion, ond roedd ei fesurau yn rhy ychydig i'r Catholigion, ond yn ormod i lawer o Brotestaniaid, gan gynnwys llawer yn ei blaid ei hun. Galwodd ethliad yn Chwefror 1969, ac wedi methu cael buddugoliaeth glir, ymddiswyddodd fel arweinydd yr UUP a Phrif Weinidog ym mis Ebrill.