Seán Lemass

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Seán Lemass
Séan Lemass at Schiphol Airport (cropped).jpg
Taoiseach
Yn ei swydd
23 Mehefin 1959 – 10 Tachwedd 1966
Arlywydd Éamon de Valera
Tánaiste Seán MacEntee
Frank Aiken
Rhagflaenwyd gan Éamon de Valera
Dilynwyd gan Jack Lynch
Leader of Fianna Fáil
Yn ei swydd
23 Mehefin 1959 – 10 Tachwedd 1966
Rhagflaenwyd gan Éamon de Valera
Dilynwyd gan Jack Lynch
Tánaiste
Yn ei swydd
20 Mawrth 1957 – 23 Mehefin 1959
Taoiseach Éamon de Valera
Rhagflaenwyd gan William Norton
Dilynwyd gan Seán MacEntee
Yn ei swydd
13 June 1951 – 2 June 1954
Taoiseach Éamon de Valera
Rhagflaenwyd gan William Norton
Dilynwyd gan William Norton
Yn ei swydd
14 June 1945 – 18 February 1948
Taoiseach Éamon de Valera
Rhagflaenwyd gan Seán T. O'Kelly
Dilynwyd gan William Norton
Minister for Industry and Commerce
Yn ei swydd
20 March 1957 – 23 June 1959
Taoiseach Éamon de Valera
Rhagflaenwyd gan William Norton
Dilynwyd gan Jack Lynch
Yn ei swydd
13 June 1951 – 2 June 1954
Taoiseach Éamon de Valera
Rhagflaenwyd gan Thomas F. O'Higgins
Dilynwyd gan William Norton
Yn ei swydd
18 August 1941 – 18 February 1948
Taoiseach Éamon de Valera
Rhagflaenwyd gan Seán MacEntee
Dilynwyd gan Daniel Morrissey
Yn ei swydd
9 March 1932 – 16 September 1939
Taoiseach Éamon de Valera
Rhagflaenwyd gan Patrick McGilligan
Dilynwyd gan Seán MacEntee
Minister for Supplies
Yn ei swydd
8 September 1939 – 31 July 1945
Taoiseach Éamon de Valera
Rhagflaenwyd gan New office
Dilynwyd gan Office abolished
Teachta Dála
Yn ei swydd
February 1948 – June 1969
Etholaeth Dublin South-Central
Yn ei swydd
June 1927 – February 1948
Etholaeth Dublin South
Personal details
Ganwyd John Francis Lemass
(1899-07-15)15 Gorffennaf 1899
Ballybrack, Dublin, Ireland
Bu farw 11 Mai 1971(1971-05-11) (71 oed)
Phibsborough, Dublin, Ireland
Man gorffwys Deansgrange, Dulyn, Iwerddon
Cenedligrwydd Gwyddel
Plaid wleidyddol Fianna Fáil
Priod Kathleen Hughes (m. 1924)
Perthnasau Charles Haughey (brawd yng nghyfraith)
Plant
Rhieni
  • John Lemass
  • Frances Lemass
Addysg O'Connell School
Alma mater University College Cork
Galwedigaeth

Roedd Seán Francis Lemass (a fedyddwyd yn John Francis Lemass, 15 Gorffennaf 1899 - 11 Mai 1971) yn wleidydd Gwyddelig ym mhlaid Fianna Fáil a wasanaethodd fel Taoiseach ac Arweinydd Fianna Fáil o 1959 i 1966. Bu hefyd yn gwasanaethu fel y Tánaiste o 1957 i 1959, 1951 i 1954 a 1945 i 1948, y Gweinidog dros Ddiwydiant a Masnach o 1957 i 1959, 1951 i 1954, 1945 i 1949 a 1932 i 1939 a'r Gweinidog dros Gyflenwadau o 1939 i 1945. Fe wasanaethodd fel Teacht Dála (TD) o 1927 hyd 1969.

Ymladdodd Lemass yng Ngwrthryfel y Pasg 1916, Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon a'r Rhyfel Cartref, etholwyd Lemass gyntaf fel Teachta Dála (TD) Sinn Féin ar gyfer etholaeth De Dulyn mewn isetholiad ar 18 Tachwedd 1924 ac fe'i dychwelwyd ym mhob etholiad nes i'r etholaeth gael ei ddiddymu ym 1948, pan gafodd ei ail-ethol i Ddwyrain De-Ddulyn nes iddo ymddeol yn 1969. Bu'n aelod sylfaenydd o Fianna Fáil ym 1926, a bu'n Weinidog dros Ddiwydiant a Masnach, y Gweinidog dros Gyflenwadau a Mae Isnaiste mewn llywodraethau olynol Fianna Fáil.[1]

Ystyrir yn eang fod Lemass yn dad i Iwerddon fodern, yn bennaf oherwydd ei ymdrechion wrth hwyluso twf diwydiannol, gan ddod â buddsoddiad uniongyrchol dramor i'r wlad, gan greu cysylltiadau parhaol rhwng Iwerddon a'r gymuned Ewropeaidd.[2] Un o'r diwygiadau moderneiddio pwysicaf yn ystod daliadaeth Lemass oedd cyflwyno addysg uwchradd am ddim, menter a gafodd effaith yn fuan ar ôl i Lemass ymddeol fel Taoiseach.

Ieuenctid[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Lemass yn Ballybrack, Dulyn, cyn i'w deulu symud i Capel Street yn ganol dinas Dulyn.[3] Roedd o dras Hiwgenotiaid Ffrengig[4] ac ef oedd yr ail o saith o blant a anwyd i John and Frances Lemass. Oddi fewn i'r teulu fe alwyd ef yn Jack ac, ymhen amser, ac wedi 1916, roedd yn well ganddo gael ei alw'n Seán.

Dechreuodd gweithgaredd Lemass yn gynnar iawn yn y mudiad annibyniaeth Iwerddon ac ymunodd gyda'r Volunteers yn 1915. Cymerodd ran yng Ngwrthryfel y Pasg ac fe'i arestiwyd. Fodd bynnag, arweiniodd ei oedran ifanc fe'i rhyddhau yn cynnar.

Roedd yn parhau i fod yn gysylltiedig â'r Irish Volunteers a ddiwygiwyd maes o law i'r IRA. Yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon, roedd yn rhan o Frigâd Dulyn o'r IRSA o dan arweiniad Michael Collins. Llwyddodd Collins yn 1920 i gael gwybodaeth am ysbïwyr Prydain yn Nulyn (y Cairo Gang), a gorchymyn eu dienwyddio. Cynhaliwyd cyfres o ymosodiadau, gan gynnwys gan Lemass, ar 21 Tachwedd 1921. Adymatebodd milwyr Prydain gyda chyflafan 'Sul Waedlyd' (Bloody Sunday, yr un cyntaf) lle lladdwyd bobl gyffredin Dulyn. Arestiwyd Lemass eto ym 1921 ac fe'i rhyddhawyd yn 1923.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Y flwyddyn ganlynol ymunodd â Sinn Féin yn y Dáil Éireann. Yn dilyn niwed a drwgdybiaeth a methiant y gweriniaethwyr mwyaf 'pur' yn Rhyfel Cartref Iwerddon penderfynodd Éamon de Valera fod Sinn Féin i symud tuag at gydnabod Gwladwriaeth Rydd Iwerddon a Senedd Iwerddon. Methodd y gobeithion hyn, fodd bynnag, ac yn 1926 penderfynodd de Valera a Lemass adael y blaid gan fynd ati i sefydlu plaid newydd o'r enw Fianna-Fáil. Roeddent yn dal i wrthwynebu rhaniad Iwerddon, ond yn cynrychioli pwynt fwy pragmatig o farn na llawer o'r Gweriniaethwyr ildio, a welodd cydnabod sefydlu Gogledd Iwerddon fel brad.

Yn 1932 enillodd Fianna Fáil yr etholiadau cyffredinnol. Gyda hynny, daeth Seán Lemass yn Weinidog dros Faterion Economaidd. Aeth ati i geisio adeiladu economi Iwerddon oedd yn brwydro yn erbyn tollau mewnforio a diffyg ymrwymiad gan y Trysorlys.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd Iwerddon yn swyddogol niwtral ac yna'n hunan-ddibynnol yn economaidd. Er mwyn ymdopi â'r sefyllfa hon, crewyd y Weinyddiaeth Gyflenwi (Ministry for Supply), gyda Lemass ar ei bennaeth arno. Meistrolodd Lemass y sefyllfa anodd yn ystod y rhyfel, ac wedi hynny, yn 1945, penodwyd ef gan de Valera fel Dirprwy Brif Weinidog (Tánaiste).

Ond roedd gan y ddau wladwriaeth farn sylfaenol wahanol ar ddyfodol y wlad. Er bod De Valera yn parhau i ystyried Iwerddon fel gwlad draddodiadol ac amaethyddol, roedd Lemass yn bwriadu ehangu diwydiant domestig a moderneiddio'r wlad.

Yn Swyddfa'r Prif Weinidog[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1959, cyhoeddodd de Valera ei ymddiswyddiad o swydd prif weinidog a chadeirydd y blaid. I lawer, roedd Fianna Fáil yn anhygoel hebddo; roedd De Valera wedi dominyddu gwleidyddiaeth Iwerddon ers cyhyd. Cymerodd Lemass ei le a llwyddodd Lemass nid yn unig i gymeryd awenau'r wladwriaeth ond hefyd i wneud newid ceneheddlaeth oedd ei angen. Er mai llywodraeth lleiafrifol oedd ganddo, ystyrir ei ddaliadaeth fel Taoiseach yn un o'r rhai mwyaf sylweddol yn hanes Iwerddon ers annibyniaeth. Lleihawyd rwystrau masnach a gwarchodiaeth (protectionism) ac ymunodd Iwerddon gyda'r Cytundeb Cyffredinol ar Dalau a Masnach (GATT) yn 1960; dim ond methodd ag ymuno â'r Gymuned Ewropeaidd newydd yn 1961. Cefnogwyd yr economi gan cynigion treth a chymorthdaliadau gwladol.

Adlewyrchwyd newid gwleidyddol hefyd yn y berthynas â Gogledd Iwerddon. Ar ôl blynyddoedd o rethreg gelyniaethus ar y ddwy ochr dechreuwyd gweld rapprochement rhwng Dulyn a Belfast ac yn 1965 bu perthynas wleidyddol rhwng Lemass a Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon, Terence O'Neill. Fodd bynnag, ni barhaodd y cyfnod optimistig yma wrth i'r gwrth-daro gynyddu yng Ngogledd Iwerddon erbyn diwedd yr 1960au.

Ym 1966, ymddiswyddodd Seán Lemass o'r swyddfa, gan adael y Dáil dair blynedd yn ddiweddarach. Nid oedd i dystio penllanw gwaith ei fywyd gwleidyddol sef llwyddiant yr Iwerddon i ymuno â'r Gymuned Ewropeaidd yn 1973; bu farw ar 11 Mai 11 1971 yn Nulyn.

Dyfyniadau Lemass[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 'Fianna Fáil is a slightly constitutional party...but before anything we are a republican party.' (1928)[5]
  • 'A rising tide lifts all boats.' (1964, priodolwyd i John F. Kennedy).[6]
  • 'The historical task of this generation, as I see it, is to consolidate the economic foundations of our political independence.' (1959)
  • 'First and foremost we wish to see the re-unification of Ireland restored. By every test Ireland is one nation with a fundamental right to have its essential unity expressed in its political institutions.' (1960)
  • 'The country is, I think, like an aeroplane at the take-off stage. It has become airborne; that is the stage of maximum risk and any failure of power could lead to a crash. It will be a long time before we can throttle back to level flight.' (1961)
  • 'A defeatist attitude now would surely lead to defeat...We can't opt out of the future.' (1965)
  • 'I regret that time would not stand still for me so that I could go on indefinitely.' (1966)
  • 'RTE was set up by legislation as an instrument of public policy, and, as such is responsible to the government.' (1966)

Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 24 Awst 1924, priododd Lemass Kathleen Hughes, er gwaethaf gwrthwynebiad rhieni'r briodferch. Roedd Jimmy O'Dea, y comedian adnabyddus, oedd gwas priodas Lemass.

Gyda'i gilydd, magodd Seán a Kathleen bedwar o blant - Maureen (1925-2017), Peggy (1927-2004), Noel (1929-1976) a Sheila (1932-1997). Priododd Maureen Lemass Charles Haughey, a ddaeth yn ddiweddarach yn arweinydd Fianna Fáil a Thaoiseach.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Darllen Pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Brian Girvin and Gary Murphy (eds.): The Lemass Era:Politics and Society in the Ireland of Seán Lemass, Dublin, 2005
  • John Horgan: Seán Lemass: The Enigmatic Patriot, Dublin, 1997

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]