Bamber Gascoigne

Oddi ar Wicipedia
Bamber Gascoigne
Bamber Gascoigne yn 2006.
Ganwyd24 Ionawr 1935 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw8 Chwefror 2022 Edit this on Wikidata
Richmond upon Thames Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethhanesydd celf, awdur geiriau, cyflwynydd teledu, adolygydd theatr, awdur, darlledwr, sgriptiwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
TadDerrick Ernest Frederick Orby Gascoigne Edit this on Wikidata
MamMary Louisa Hermione O'Neill Edit this on Wikidata
PriodChristina Mary Ditchburn Edit this on Wikidata
PerthnasauTerence O'Neill, Julian Gascoigne, Arthur O'Neill Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, CBE Edit this on Wikidata

Cyflwynydd teledu ac awdur Seisnig oedd Arthur Bamber Gascoigne[1] CBE (24 Ionawr 19358 Chwefror 2022) a fu'n cyflwyno'r rhaglen deledu gwis University Challenge o 1962 i 1987.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganed ef yn Llundain i deulu o dras Wyddelig. Mynychodd Goleg Eton a gwasanaethodd yng Ngwarchodlu'r Grenwadwyr yn ystod ei Wasanaeth Cenedlaethol. Tra'n astudio llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Magdalene, Caergrawnt, gobeithiodd gychwyn ar yrfa ym myd adloniant. Cafodd glyweliad gyda'r Marlowe Society, clwb theatr i fyfyrwyr Caergrawnt, ond yn fuan byddai'n rhoi'r gorau i'w nod o fod yn actor. Trodd ei law yn gyntaf at gyfarwyddo, ac yna at ysgrifennu ar gyfer y llwyfan. Ym 1957 derbyniwyd sgetsh gomedi ganddo ar gyfer rifiw y gymdeithas Footlights, a gyfarwyddwyd gan Jonathan Miller. Ysgrifennodd sioe golegol o'r enw Share My Lettuce, a gafodd ei pherfformio yn y West End gyda Kenneth Williams a Maggie Smith. Derbyniodd ei radd dosbarth-cyntaf o Goleg Magdalene ym 1957, ac enillodd gymrodoriaeth o'r Commonwealth Fund i ddysgu ysgrifennu dramâu ym Mhrifysgol Yale. Dychwelodd i Gaergrawnt fel myfyriwr ôl-raddedig ym 1959 a chyflawnodd un flwyddyn o ymchwil i'r theatr fodern.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Wedi iddo adael y brifysgol, cyfrannai Gascoigne feirniadaeth theatr i gylchgrawn The Spectator a phapur newydd The Observer. Ym 1961 ceisiodd am swydd yr holwr ar University Challenge, addasiad Prydeinig o'r rhaglen deledu Americanaidd College Bowl. Darlledwyd y rhaglen i lenwi bwlch o naw wythnos ar sianel ITV ym 1962, a bu mor boblogaidd fel y byddai'n cael ei chomisiynu am sawl cyfres. Dim ond rhyw ddeugain diwrnod y flwyddyn y byddai'n rhaid iddo ffilmio University Challenge, a threuliodd weddill ei amser yn adolygu llyfrau ac yn ysgrifennu dramâu.[1] Gwaharddwyd ei ddrama gyntaf, Leda Had a Little Swan (1964), yn y Deyrnas Unedig gan yr Arglwydd Siambrlen. Cafodd ragberfformiadau ohoni yn yr Unol Daleithiau, ond ni chynhaliwyd ei noson gyntaf ar Broadway. Ysgrifennodd ddwy ddrama arall yn y 1960au, ond ni chawsant eu rhoi ar y llwyfan oherwydd y niferoedd uchel o actorion yn y sgriptiau.

Awdur[golygu | golygu cod]

Priododd Bamber Gascoigne â Christina Ditchburn ym 1965. Aethant i India am naw mis er mwyn ymchwilio i hanes y Moghul, a ffrwyth y daith honno oedd y gyfrol The Great Moghuls (1971) gan Bamber, gyda ffotograffau gan ei wraig. Methiant oedd ei ddrama nesaf, The Feydeau Farce Festival of 1909 (1972), ac er i'w nofelau, Murgatreud's Empire (1972) a The Heyday (1973), dderbyn clod y beirniaid, nid oeddynt yn gwerthu'n dda. Cafodd fwy o lwyddiant gyda'i lyfrau ffeithiol, eto gyda ffotograffau Christina Gascoigne, yn eu plith The Treasures and Dynasties of China (1973), Castles of Great Britain (1975), a The Christians (1977). Cyhoeddwyd yr olaf o'r rheiny i gyd-fynd â'r gyfres deledu epig am hanes Cristnogaeth a ysgrifennwyd a chyflwynwyd ganddo ym 1977. Ym 1980 sefydlodd Gascoigne gwmni cyhoeddi ei hun, Saint Helena Press, a fyddai'n argraffu sawl catalog o brintiau o drefi, gan gychwyn gyda Images of Richmond. Cafodd lwyddiant yn y West End o'r diwedd ym 1984, drwy adfer The Feydeay Farce Festival of 1909 dan yr enw newydd Big in Brazil, gyda Prunella Scales a Timothy West, am ddeufis o berfformiadau.[2]

Darlledu[golygu | golygu cod]

Daeth University Challenge i ben ym 1987; byddai'n cael ei adfer ar y BBC ym 1994, gyda Jeremy Paxman yn gyflwynydd. Cyflwynai Gascoigne ragor o gyfresi teledu dogfen, gan gynnwys Victorian Values (1987) ar ITV a The Great Moghuls (1990) ar Channel 4, a chreodd raglen gwis am y celfyddydau o'r enw Connoisseur ar gyfer BBC Two ym 1988. Yn ystod ei henaint, defnyddiodd ei etifeddiaeth o'i hen fodryb, Mary Innes-Ker, Duges Roxburghe, i adfer yr hen blasty yn West Horsley, Surrey, ac adeiladu tŷ opera yn ei berllan. Derbyniodd CBE, am ei wasanaeth i'r celfyddydau, oddi ar y Frenhines Elisabeth II yn 2018.[3] Bu farw Bamber Gascoigne yn 2022 yn 87 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Stephen Bates, "Bamber Gascoigne obituary", The Guardian (8 Chwefror 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 9 Chwefror 2022.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) "Bamber Gascoigne, urbane presenter and author who made University Challenge a television institution – obituary", The Daily Telegraph (8 Chwefror 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Chwefror 2022.
  3. (Saesneg) "Bamber Gascoigne: Original University Challenge presenter dies at 87", BBC (8 Chwefror 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 9 Chwefror 2022.