Rygbi Ulster
| Llysenw/au | The Ulstermen | ||
|---|---|---|---|
| Sefydlwyd | 1879 | ||
| Lleoliad | Belffast, Gogledd Iwerddon | ||
| Maes/ydd | Kingspan Stadium (Nifer fwyaf: 18,196) | ||
| Cadeirydd | Shane Logan | ||
| Cyfarwyddwr Rygbi | Les Kiss | ||
| Capten | Rob Herring Andrew Trimble | ||
| Mwyaf o gapiau | Roger Wilson (221) | ||
| Sgôr mwyaf | David Humphreys (1,585) | ||
| Mwyaf o geisiadau | Andrew Trimble (71) | ||
| Cynghrair/au | Pro14 | ||
| |||
| Gwefan swyddogol | |||
| www.ulsterrugby.com | |||

Un o bedwar timau Rygbi'r Undeb proffesiynnol ynys Iwerddon yw Rygbi Ulster (Gwyddeleg: Rugbaí Uladh ). Maent yn cystadlu yn y Pro14 ac yn cynrychioli cangen Ulster, sef un o bedwar rhanbarth hanesyddol Iwerddon. Yn wahanol i'r tair rhanbarth arall, sydd yn gyfan gwbl o fewn Gweriniaeth Iwerddon, mae Ulster wedi'i rhannu rhwng y Gweriniaeth a Gogledd Iwerddon, er bod y mwyafrif helaeth - gan gynnwys Belffast, lle mae'r tîm yn chwarae yn Stadiwm Kingspan sydd â lle i 18,196 o wylwyr - yn y Gogledd.
Ffurfiwyd tîm i gynrychioli Ulster mor bell yn ôl a 1879, fodd bynnag dim ond ers 1995 bu'r tîm yn broffesiynol. Ymunodd y tîm â'r Gynghrair Geltaidd (bellach y Pro14) pan ffurfiwyd y gystadleuaeth yn 2001. Enillodd Ulster y Gynghrair Geltaidd yn 2006, a Chwpan Heineken (Cwpan Pencampwyr Ewrop bellach) yn 1999.