Yr Helyntion
| Enghraifft o: | sectarian violence, Gwrthdaro ethnig |
|---|---|
| Dyddiad | 1998 |
| Lladdwyd | 3,532 |
| Dechreuwyd | 1960s |
| Daeth i ben | 1998 |
| Lleoliad | Gogledd Iwerddon |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/07kr2 |

Cyfnod o wrthdaro ethno-wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon oedd yr Helyntion (Saesneg: The Troubles, Gwyddeleg: Na Trioblóidí) a barhaodd o ddiwedd y 1960au hyd Gytundeb Gwener y Groglith ym 1998, er bod ychydig o drais ers hynny. Tair carfan y gwrthdaro oedd lluoedd diogelwch y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon, gweriniaethwyr Gwyddelig, gan gynnwys yr IRA; a'r Unoliaethwyr, gan gynnwys yr UDF a'r Ulster Defence Association (UDA). Brwydrodd y gweriniaethwyr a'r Unoliaethwyr dros statws cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon, a cheisiodd lluoedd diogelwch y ddwy wladwriaeth dawelu'r ymladd (er bod cyhuddiadau bod rhywfaint o gymorth gan Weriniaeth Iwerddon i'r gweriniaethwyr, a chan y DU i'r Unoliaethwyr).

Bu brwydro ar draws Gogledd Iwerddon, yn enwedig yn y brifddinas Belffast, rhwng y cymunedau Catholig, a oedd ar y cyfan yn cefnogi'r gweriniaethwyr, a'r cymunedau Protestannaidd, a oedd ar y cyfan yn gefnogol o'r Unoliaethwyr. Bu'r gwrthdaro hefyd yn ymledu i weddill y Deyrnas Unedig ac i Weriniaeth Iwerddon ar ffurf terfysgaeth.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Michael Hughes, Ireland Divided - The Roots of the Modern Irish Problem. Gwasg Prifysgol Cymru, 1994.