Ormskirk
Math | tref, ardal ddi-blwyf, tref farchnad |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Gorllewin Swydd Gaerhirfryn |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerhirfryn (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.5665°N 2.8869°W |
Cod OS | SD415085 |
Cod post | L39 |
Tref farchnad yng ngorllewin Swydd Gaerhirfryn, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Ormskirk.[1] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Gorllewin Swydd Gaerhirfryn. Saif 13 milltir (21 km) i'r gogledd o ganol dinas Lerpwl, 11 milltir (18 km) i'r gogledd-orllewin o St Helens, 9 milltir (14 km) i'r de-ddwyrain o Southport a 15 milltir (24 km) i'r de-orllewin o Preston. Mae Caerdydd 233.1 km i ffwrdd o Ormskirk ac mae Llundain yn 296 km. Y ddinas agosaf ydy Lerpwl sy'n 17.4 km i ffwrdd.
Daearyddiaeth a gweinyddiaeth
[golygu | golygu cod]Safai Ormskirk o'r llethr ar ochr cribyn, mae pwynt uchaf y grib 68 medr uchel lefel y môr, yng nghanol Gwastadedd Arfordirol Swydd Gaerhirfryn,[2] ac mae wedi cael ei disgrifio fel bwrdeistref sydd wedi cael ei chynllunio, gan iddi gael ei gosod allan yn yr 13g.[3]
Nid oes gan Ormskirk blwyf ei hunan, ac amgylchynir gan blwyfi Bickerstaffe, Aughton, Scarisbrick, Burscough a Lathom, a thref heb blwyf Skelmersdale.[4]
Lleolir y dref yn ardal Gorllewin Swydd Gaerhirfryn ac yn gartref i bencadlys Cyngor Bwrdeistref Gorllewin Swydd Gaerhirfryn. Mae Ormskirk hefyd yn 'dref bost' yn ardal cod post Lerpwl.
Gan nad oes gan Ormskirk gyngor plwyf, sefydlwyd cymdeithas wirfoddol yr Ormskirk Community Partnership, yn 2009, gyda chefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Gorllewin Swydd Gaerhirfryn, er mwyn rhoi llais i bobl Ormskirk.[5]
Mae Ormskirk hefyd yn gartref i Brifysgol Edge Hill.[6]
Pobl o nod
[golygu | golygu cod]- Joseph Brandreth (ganed yn Ormskirk), meddyg
- Jon Culshaw (ganed yn Ormskirk), dynwaredwr
- James Hopwood Jeans (ganed yn Ormskirk), ffisegydd, seryddwr a mathemategydd
- Stuart Maconie (myfyriwr yn Ormskirk), cyflwynydd teledu
- Nicholas Monsarrat (byw yn Ormskirk), nofelydd ac awdur The Cruel Sea
- Les Pattinson (ganed yn Ormskirk), cyn-aelod o'r grŵp Echo & the Bunnymen
- Jonathan Pryce (myfyriwr yn Ormskirk), actor
- John Souch (ganed yn Ormskirk), peintiwr o'r 17g
Aelodau Seneddol dros Ormskirk
[golygu | golygu cod]- James Bell
- Ronald Cross
- Douglas Glover
- Robert Kilroy-Silk
- Stephen King-Hall
- James Salter
- Harold Soref
- Arthur Stanley
- Harold Wilson
Chwaraewyr pêl-droed
[golygu | golygu cod]- Billy Ayre (byw a marw yn Ormskirk), chwaraewr a rheolwr pêl-droed
- Duncan Ferguson (byw yn Ormskirk)
- Tony Morley (ganed yn Ormskirk)
- Jimmy O'Neill (byw yn Ormskirk)[7]
- Robbie Slater (ganed yn Ormskirk), chwaraewr pêl-droed Awstralaidd
- Stephen Warnock (ganed yn Ormskirk)
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Cofadail Beaconsfield, Moor Street
-
Buck i'th' Vine Inn, Burscough Street
-
Cofeb Sergeant-Major Nunnerly, Victoria Gardens
-
Yr hen dŵr dŵr, Tower Hill
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Prifysgol Edge Hill
- Ardal Drefol Ormskirk
- Ormskirk (etholaeth seneddol)
- Tower Hill Water Tower
- Gorllewin Swydd Gaerhirfryn (etholaeth seneddol)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 18 Awst 2023
- ↑ Townships: Ormskirk Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback, British History Online
- ↑ Lancashire.gov.uk Archifwyd 2007-07-05 yn y Peiriant Wayback, Ormskirk historic town assessment, Lancashire County Council, 2006
- ↑ Mariolancashire.gov.uk, Map of Lancashire parishes
- ↑ Westlandsdc.gov.uk Ormskirk Community Partnership
- ↑ Edgehill.ac.uk Archifwyd 2008-08-24 yn y Peiriant Wayback, Edge Hill's 'how to find us' page
- ↑ "Tributes as ex-Everton goalie dies, aged 76", Ormskirk Advertiser, Issue 13,698, 20 December 2007, p. 12
Dinasoedd
Caerhirfryn ·
Preston
Trefi
Accrington ·
Adlington ·
Bacup ·
Barnoldswick ·
Blackburn ·
Blackpool ·
Brierfield ·
Burnley ·
Carnforth ·
Clayton-le-Moors ·
Cleveleys ·
Clitheroe ·
Colne ·
Chorley ·
Darwen ·
Earby ·
Fleetwood ·
Garstang ·
Great Harwood ·
Haslingden ·
Heysham ·
Kirkham ·
Leyland ·
Longridge ·
Lytham St Annes ·
Morecambe ·
Nelson ·
Ormskirk ·
Oswaldtwistle ·
Padiham ·
Penwortham ·
Poulton-le-Fylde ·
Preesall ·
Rawtenstall ·
Rishton ·
Skelmersdale ·
Whitworth