Bwrdeistref Gorllewin Swydd Gaerhirfryn
Gwedd
| Math | ardal an-fetropolitan, bwrdeisdref |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Swydd Gaerhirfryn |
| Prifddinas | Ormskirk |
| Poblogaeth | 113,949 |
| Sefydlwyd | |
| Gefeilldref/i | Cergy, Erkrath |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Gaerhirfryn (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 346.7843 km² |
| Cyfesurynnau | 53.562°N 2.827°W |
| Cod SYG | E07000127 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of West Lancashire Borough Council |
![]() | |
Ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaerhirfryn, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Gorllewin Swydd Gaerhirfryn (Saesneg: Borough of West Lancashire).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 347 km², gyda 114,306 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar dair ardal arall yn Swydd Gaerhirfryn, sef Bwrdeistref Fylde i'r gogledd, a Bwrdeistref De Ribble a Bwrdeistref Chorley i'r dwyrain. Mae hefyd yn ffinio ar Fanceinion Fwyaf i'r dwyrain a Glannau Merswy i'r de a'r gorllewin.

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Rhennir y fwrdeistref yn 21 o blwyfi sifil, gyda dwy ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys trefi Ormskirk a Skelmersdale, sef y prif aneddiadau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 6 Hydref 2020
