Southport
| Math | tref, plwyf sifil, ardal ddi-blwyf, cyrchfan lan môr |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Bwrdeistref Fetropolitan Sefton |
| Poblogaeth | 91,703 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Southport |
| Sir | Glannau Merswy (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Gerllaw | Afon Ribble |
| Cyfesurynnau | 53.6469°N 3.0081°W |
| Cod OS | SD333170 |
| Cod post | PR8, PR9 |
![]() | |
Tref lan-môr yng Nglannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Southport.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Sefton.
Lleolir y dref ar lan Môr Iwerddon, 16.5 milltir (26.6 km) i'r gogledd o Lerpwl a 14.8 milltir (23.8 km) i'r de-orllewin o Preston.Yn hanesyddol, bu'n rhan o Swydd Gaerhirfryn. Mae Caerdydd 241.5 km i ffwrdd o Southport ac mae Llundain yn 307.4 km. Y ddinas agosaf ydy Preston sy'n 22.4 km i ffwrdd.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Southport boblogaeth o 91,703.[2]
Mae atyniadau twristaidd yn cynnwys Pier Southport, yr ail fwyaf o'i fath yng ngwledydd Prydain, Stryd Lord (Lord Street), a fu'n gartref i Napoleon III o Ffrainc, a ffair enwog a agorwyd yn 1912.
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Owen Rhoscomyl. Ganed yr awdur yn Southport yn 1863, ond fe'i magwyd yn Nhremeirchion, Sir y Fflint.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2019
- ↑ City Population; adalwyd 17 Gorffennaf 2020
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan y Swyddfa Dwristiaeth
Dinas
Lerpwl
Trefi
Bebington ·
Bootle ·
Bromborough ·
Crosby ·
Formby ·
Halewood ·
Heswall ·
Hoylake ·
Huyton ·
Kirkby ·
Litherland ·
Maghull ·
New Brighton ·
Newton-le-Willows ·
Penbedw ·
Prescot ·
Southport ·
St Helens ·
Wallasey ·
West Kirby
