Kirkby

Oddi ar Wicipedia
Kirkby
Mathtref, ardal ddi-blwyf Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Fetropolitan Knowsley
Daearyddiaeth
SirGlannau Merswy
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaFormby Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.4826°N 2.892°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ409988 Edit this on Wikidata
Map
Am leoedd eraill o'r un enw gweler Kirkby (gwahaniaethu).

Tref yng Nglannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Kirkby[1] (IPA: /ˈkɝːbiː/; heb yngan yr ail 'k'). Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Knowsley. Mae'n gorwedd 5 milltir (8 km) i'r gogledd o dref Huyton, a thua 6 milltir (10 km) i'r gogledd-ddwyrain o Lerpwl.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Kirkby boblogaeth o 42,744.[2]

Sefydlwyd tref Eingl-Sacsonaidd yno tua'r flwyddyn 870 OC, ond ceir tystiolaeth am aneddfa ar y safle yn Oes yr Efydd. Mae'r enw ei hun yn Sgandinafaidd (kirk "eglwys" + by "aneddfa"). Datblygodd y dref o'r 1950au hyd y 1970au wrth i boblogaeth dinas Lerpwl dyfu ac fe'i ystyrir yn aml yn un o faesdrefi'r ddinas honno.

Mae Caerdydd 223.1 km i ffwrdd o Kirkby ac mae Llundain yn 288.4 km. Y ddinas agosaf ydy Lerpwl sy'n 8 km i ffwrdd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 17 Gorffennaf 2020
  2. City Population; adalwyd 17 Gorffennaf 2020
Eginyn erthygl sydd uchod am Glannau Merswy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato