Bwrdeistref Fetropolitan Knowsley

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bwrdeistref Fetropolitan Knowsley
Coat of arms of Knowsley Metropolitan Borough Council.png
Math bwrdeistref fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddol Glannau Merswy
Prifddinas Huyton Edit this on Wikidata
Poblogaeth 149,571 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Moers Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Glannau Merswy
(Sir seremonïol)
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Arwynebedd 86.5002 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 53.439°N 2.851°W Edit this on Wikidata
Cod SYG E08000011 Edit this on Wikidata
Cod post L36 9YU Edit this on Wikidata
GB-KWL Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaethol Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Knowsley Edit this on Wikidata

Bwrdeistref fetropolitan yng Nglannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan Knowsley (Saesneg: Metropolitan Borough of Knowsley).

Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 86.5 km², gyda 150,862 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Dinas Lerpwl a Bwrdeistref Fetropolitan Sefton i'r gorllewin, Bwrdeistref Fetropolitan St Helens i'r dwyrain, Swydd Gaerhirfryn i'r gogledd a Swydd Gaer i'r de.

Bwrdeistref Fetropolitan Knowsley yng Nglannau Merswy

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.

Rhennir y fwrdeistref yn bum plwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Huyton, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Halewood, Kirkby a Prescot. Enwir y fwrdeistref ar ôl Knowsley, sy'n bentref mawr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. City Population; adalwyd 17 Gorffennaf 2020