West Kirby

Oddi ar Wicipedia
West Kirby
Mathanheddiad dynol Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Fetropolitan Cilgwri
Poblogaeth12,733 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGlannau Merswy
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaHoylake Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.373°N 3.184°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ213869 Edit this on Wikidata
Cod postCH48 Edit this on Wikidata
Map

Tref yng Nglannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy West Kirby.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Cilgwri. Saif ar aber Afon Dyfrdwy ar benrhyn Cilgwri, i'r de o Hoylake.

Ceir traeth a llyn helyg artifisial yno. Ar lanw isel, mae’n bosibl cerdded i Ynys Hilbre. Mae gorsaf reilffordd West Kirby yn derminws ar rwydwaith Merseyrail.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Credir mai gair a adawyd gan y Llychlynwyr oedd Kirkjubyr yn wreiddiol, a olygai 'pentref gydag eglwys.[2][3] Ychwanegwyd y gair West er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a mannau eraill o'r un enw e.e. Kirkby-in-Walea (Wallasey heddiw). Ceir y cofnod cyntaf o'r gair yn 1285, a sillafwyd yr enw fel "West Kyrkeby in Wirhale".[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 16 Gorffennaf 2020
  2. 2.0 2.1 McNeal Dodgson, John (1972), The Place-Names of Cheshire Part IV ~ Broxton Hundred and Wirral Hundred, Cambridge University Press, pp. 294–295, ISBN 0-521-08247-1
  3. Ellison, Norman (1955), The Wirral Peninsula, London: Robert Hale, p. 44, ISBN 0-7091-1660-8
Eginyn erthygl sydd uchod am Glannau Merswy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato