Neidio i'r cynnwys

Tregolwyn

Oddi ar Wicipedia
Tregolwyn
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth619, 406, 447 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4685°N 3.526°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000651 Edit this on Wikidata
Cod postCF71 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJane Hutt (Llafur)
AS/au y DUAlun Cairns (Ceidwadwr)
Map

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru, yw Tregolwyn[1] (Saesneg: Colwinston). Gorwedd i'r dwyrain o Ben-y-bont ar Ogwr, tua hanner ffordd rhwng y dref honno a'r Bont-faen.

Mae Eglwys Sant Fihangel a'r Holl Angylion yn y pentref yn adeilad cofrestedig Graddfa 1 sy'n dyddio'n ôl i'r Oesoedd Canol. Gerllaw ceir ysgol gynradd Dewi Sant a Neuadd y Pentref. Enw tafarn y pentref yw "The Sycamore Tree".[2]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[4]

Mae gan Dregolwyn ei gyngor cymuned ei hun sy'n ethol un ar ddeg o aelodau. Roedd gan y pentref boblogaeth o tua 400 yn 2005.

Pentref diolchgar yw Dregolwyn - pentref heb gofeb i'r Rhyfel Byd Cyntaf, lle ddaeth pob milwr yn ôl o'r rhyfel.

Roedd y nofelwraig enwog Agatha Christie yn arfer ymweld â'r pentref yn aml ac mae rhai o'i disgynyddion yn dal i fyw yno.

Adeiladau a chofadeiladau

[golygu | golygu cod]
  • Capel Seion
  • Cofeb ryfel (2014)
  • Eglwys Sant Fihangel a'r Holl Angylion
  • Ffermdy Pwllywrach
  • Neuadd y Pentref
  • Tafarn y Sycamore Tree

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Tregolwyn (pob oed) (447)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Tregolwyn) (57)
  
13.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Tregolwyn) (314)
  
70.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Tregolwyn) (48)
  
29.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 4 Mawrth 2025
  2. "Gwefan y Sycamore Tree". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-06. Cyrchwyd 2013-04-01.
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]