Merthyr Dyfan
Pentref bychan a phlwyf ym Mro Morgannwg yw Merthyr Dyfan. Fe'i lleolir ar gwrr gogleddol Y Barri ar bwys y ffordd A4050, tua 6 milltir i'r de-orllewin o ddinas Caerdydd.
Enwir y pentref ar ôl Sant Dyfan a cheir eglwys a gysegrir iddo yn y pentref. Gall y gair merthyr yn y Gymraeg olygu "eglwys (er cof am sant neu ar ei fedd)" a dyna a geir yma; ceir enwau lleol tebyg eraill yn ne Cymru, e.e. Merthyr Tudful, Merthyr Cynog, a Merthyr Mawr, a cheir yr enwau cytras merther yn y Gernyweg a merzher yn Llydaweg hefyd, i gyd mewn enwau lleoedd.[1]
Honnir mai dyma un o'r canolfannau Cristnogol cynharaf yng Nghymru. Yn ôl traddodiad, cafodd ei seyfydlu yn 180 OC pan anfonwyd Dyfan a Ffagan i Gymru gan y Pab Eleutherius. Cysylltir yr eglwys gyda Sant Teilo hefyd, sy'n nawddsant y plwyf gyda Dyfan. Cafodd ei difrodi yn sylweddol yng nghyfnod y Diwygiad Protestannaidd a'i hadfer yn y 19g.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol III, tud. 2436.
- ↑ MerthyrDyfan.org
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Gwefan yr eglwys a'r plwyf
Aberogwr · Aberddawan · Aberthin · Y Barri · Y Bont-faen · City · Corntwn · Dinas Powys · Eglwys Fair y Mynydd · Ewenni · Ffont-y-gari · Gwenfô · Larnog · Llanbedr-y-fro · Llancarfan · Llancatal · Llandochau · Llandochau Fach · Llandŵ · Llanddunwyd · Llan-faes · Llanfair · Llanfihangel-y-pwll · Llanfleiddan · Llangan · Llansanwyr · Llanilltud Fawr · Llwyneliddon · Llyswyrny · Marcroes · Merthyr Dyfan · Ogwr · Penarth · Pendeulwyn · Pen-llin · Pennon · Pen-marc · Y Rhws · Sain Dunwyd · Saint Andras · Sain Nicolas · Sain Siorys · Sain Tathan · Saint-y-brid · Y Sili · Silstwn · Southerndown · Tair Onnen ) Trebefered · Trefflemin · Tregatwg · Tregolwyn · Tresimwn · Y Wig · Ystradowen
