Roedd Sant Teilo (neu Eliau ; Cernyweg : Eliud ), (fl. 6g ) yn un o brif seintiau yr eglwys gynnar yng Nghymru .
Cerflun o Teilo yn Eglwys Saint-Théleau yn
Plogoneg .
Cysylltir ef a de-orllewin Cymru yn bennaf, a dywedir ei fod yn fab i Ensig ap Hydwn ap Ceredig o Geredigion . Yn ôl buchedd lawer diweddarach, ganed ef ger Penalun yn ne Sir Benfro a bu'n ddisgybl i sant Dyfrig cyn astudio dan Peulin yn Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin . Roedd yn gyfoeswr i Dewi ac mae traddodiad iddo fod ar bererindod i Jerusalem gydag ef. Dywedir iddo fod yn Esgob Llandeilo ac Esgob Tyddewi . Dywedir iddo ffoi i Lydaw rhag y Fad Felen yn 547 , ac ymweld a sant Samson yn Dol . Mae ei ben yn Eglwys Gadeiriol Llandaf , wedi iddo gael ei gadw am ganrifoedd ar fferm ym Maenclochog yn Sir Benfro .
Mae cyfeiriadau yn Llyfr Sant Chad , a elwid yn wreiddiol yn "Llyfr Teilo " yn ôl pob tebyg, yn profi ei fod yn cael ei anrhydeddu yn ne-orllewin Cymru yn yr 8fed a'r 9g . Mae Buchedd Teilo yn Llyfr Llandaf yn dyddio o'r 12g .
Prif sefydliad Teilo oedd y clas yn Llandeilo Fawr yn Sir Gaerfyrddin . Dywedir mai ef a sefydlodd y clas gwreiddiol ar safle Eglwys Gadeiriol Llandaf, ac mae nifer sylweddol o eglwysi eraill yn ne Cymru wedi eu cysegru iddo. Yn ôl traddodiad, bu'n pregethu yn Llydaw hefyd, ac mae nifer o enwau lleoledd yno yn cyfeirio ato. Ei ddydd gŵyl yw 9 Chwefror .
Ceir eglwys wedi ei gysegru iddo yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Caerdydd. Enwir Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant yng Nghaerdydd ar ei ôl hefyd, Eglwys Sant Teilo .
Ceir dros 25 o bentrefi ac eglwysi (neu 'glasau' cyn hynny), mewn tair gwlad, sy'n dwyn ei enw gan gynnwys:
Ceir 5 plwyf yn Llydaw a enwyd ar ôl Teilo.
Eglwys 'Sant Telo' yn Landelo hefyd yn Kanton Brieg
Eglwys Saint-Théleau yn Leuc'han , Kanton Brieg
Mousterdelav (Ffrangeg: Montertelot)
Eglwys Saint-Théleau (Landaol), Kanton Pleuwigner, Mor-Bihan
Landelau
Landêliau
Saint-Thélo
G. H. Doble. Saint Teilo (Welsh Saints Series,No. 3) (Llanbedr Pont Steffan, 1942)
Rhestr Wicidata:
#
Eglwys neu Gymuned
Delwedd
Cyfesurynnau
Lleoliad
Wicidata
1
Eglwys Gadeiriol Llandaf
51°29′45″N 3°13′05″W / 51.495833333333°N 3.2180555555556°W / 51.495833333333; -3.2180555555556
Caerdydd
Q747856
2
Eglwys Saint-Théleau
48°05′35″N 4°10′27″W / 48.0931°N 4.17424°W / 48.0931; -4.17424
Plogonnec
Q2957014
3
Eglwys Sant Andreas a Sant Teilo
51°29′35″N 3°10′41″W / 51.4931°N 3.1781°W / 51.4931; -3.1781
Dinas a Sir Caerdydd
Q29379240
4
Eglwys Sant Teilo
51°29′16″N 3°16′49″W / 51.4879°N 3.28026°W / 51.4879; -3.28026
Cymru
Q13128105
5
Eglwys Sant Teilo
51°35′06″N 4°03′14″W / 51.5851°N 4.05398°W / 51.5851; -4.05398
Q17743635
6
Eglwys Sant Teilo
51°47′38″N 2°54′24″W / 51.7938°N 2.90671°W / 51.7938; -2.90671
Llanarth
Q17743795
7
Eglwys Sant Teilo a'r Grog Sanctaidd
51°40′15″N 4°42′03″W / 51.670829°N 4.7008854°W / 51.670829; -4.7008854
Sir Benfro
Q29485485
8
Eglwys Sant Teilo, Llandeilo Graban
52°05′35″N 3°19′27″W / 52.0931°N 3.3243°W / 52.0931; -3.3243
Llandeilo Graban
Q17742141
9
Eglwys Sant Teilo, Abertawe
51°38′55″N 3°58′18″W / 51.648705°N 3.9717233°W / 51.648705; -3.9717233
Dinas a Sir Abertawe
Q29508044
10
Eglwys Sant Teilo, Llanddowror
51°48′09″N 4°31′51″W / 51.802582°N 4.5308276°W / 51.802582; -4.5308276
Llanddowror
Q29488188
11
Eglwys Sant Teilo, Llandeilo
51°52′53″N 3°59′30″W / 51.8814°N 3.9917°W / 51.8814; -3.9917
Sir Gaerfyrddin Llandeilo
Q24183192
12
Eglwys Sant Teilo, Llandeilo Bertholau
51°50′29″N 3°00′03″W / 51.8414°N 3.00074°W / 51.8414; -3.00074
Y Fenni
Q5117723
13
Eglwys Sant Teilo, Llandeilo Gresynni
51°49′49″N 2°52′25″W / 51.8302°N 2.87371°W / 51.8302; -2.87371
Sir Fynwy
Q5117722
14
Eglwys Sant Teilo, Llandeilo'r Fan
51°59′58″N 3°36′34″W / 51.999398°N 3.6094935°W / 51.999398; -3.6094935
Powys
Q29507491
15
Eglwys Sant Teilo, Merthyr Mawr
51°29′08″N 3°36′37″W / 51.4856°N 3.61033°W / 51.4856; -3.61033
Merthyr Mawr
Q17738980
16
Eglwys St Teilo, Llandeloy
51°53′51″N 5°06′58″W / 51.8975°N 5.1162°W / 51.8975; -5.1162
Breudeth
Q1722868
17
Eglwys y Plwyf, San Teilo, Crynwedd, Sir Benfro
51°47′48″N 4°43′00″W / 51.796595°N 4.7167821°W / 51.796595; -4.7167821
Sir Benfro
Q29485736
18
Eglwys y Seintiau Dyfan a Teilo
51°25′02″N 3°16′27″W / 51.4172°N 3.27412°W / 51.4172; -3.27412
Bro Morgannwg
Q17744123
19
Landaol, Mor-Bihan
47°44′54″N 3°04′34″W / 47.7483°N 3.0761°W / 47.7483; -3.0761
Mor-Bihan Auray Quiberon Terre Atlantique arrondissement of Lorient
Q71048
20
Landelo, Penn-ar-Bed
48°13′38″N 3°43′46″W / 48.2272°N 3.7294°W / 48.2272; -3.7294
Penn-ar-Bed
Q475612
21
Llandeilo
51°53′03″N 3°59′57″W / 51.8841°N 3.99918°W / 51.8841; -3.99918
Sir Gaerfyrddin
Q2204179
22
Llandeilo Abercywyn
51°47′24″N 4°27′08″W / 51.789938°N 4.45236°W / 51.789938; -4.45236
Sir Gaerfyrddin
Q17486733
23
Llandeilo Bertholau
51°50′29″N 3°00′02″W / 51.8414°N 3.00068°W / 51.8414; -3.00068
Sir Fynwy
Q6661799
24
Llandeilo Graban
52°05′32″N 3°19′20″W / 52.092226°N 3.322092°W / 52.092226; -3.322092
Powys
Q20593492
25
Llandeilo Llwydiarth
51°54′36″N 4°45′40″W / 51.91°N 4.761°W / 51.91; -4.761
Sir Benfro
Q6661188
26
Llandeloy
51°53′50″N 5°06′43″W / 51.897087°N 5.111898°W / 51.897087; -5.111898
Sir Benfro
Q15242553
27
Pledeliav, Aodoù-an-Arvor
48°26′57″N 2°23′16″W / 48.449166666667°N 2.3877777777778°W / 48.449166666667; -2.3877777777778
Aodoù-an-Arvor
Q1013479
28
St. Teilo's Church, Cardiff
51°30′56″N 3°13′05″W / 51.51563888888889°N 3.218138888888889°W / 51.51563888888889; -3.218138888888889
Caerdydd
Q99436069
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.