Peulin

Oddi ar Wicipedia
Peulin
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farwCymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl22 Tachwedd Edit this on Wikidata
PlantGwenfaen Edit this on Wikidata

Sant Cymreig oedd yn byw tua diwedd y 5g oedd Peulin (Lladin: Paulinus). Yn draddodiadol, cyfeirir ato fel Pawl Hen hefyd. Cysylltir ef yn arbennig â Sir Gaerfyrddin.

Hanes a thraddodiad[golygu | golygu cod]

Nid oes unrhyw fuchedd i Beulin ei hun wedi goroesi, ond mae cyfeiriad ato ym Muchedd Dewi Sant o waith Rhygyfarch ap Sulien, lle dywedir i Dewi dael ei addysgu gan Peulin. Dywedir yno fod Peulin yn ddisgybl i Garmon; dywedir hefyd iddo gael ei daro'n ddall ac i Dewi gyflawni gwyrth i adfer ei olwg. Ceir cyfeiriad ato ym Muchedd Teilo hefyd, lle dywedir i Teilo gael ei addysgu ganddo.

Roedd "Paulinus" yn enw cyffredin, a gall fod yn anodd bod yn siwr am ba un y sonir. Mae Buchedd Illtud yn crybwyll "Paulinus" oedd yn ddisgybl i Illtud ac yn gyfoeswr i Ddewi, ond mae'n debyg mai Paulinus Aurelianus oedd hwn, ychydig yn iau na Peulin, er fod rhai ysgolheigion yn credu mai'r un yw'r ddau.

Darganfuwyd carreg ac arysgrif arni ym Maes Llanwrthwl ym mhlwyf Caeo yn Sir Gaerfyrddin yn coffáu un Paulinus, efallai Peulin. Disgrifir ef ar y garreg fel "Ceidwad y ffydd a charwr cyson ei wlad":

SERVATVR FIDAEI PATRIAEQUE SEMPER AMATOR HIC PAULINUS IACIT CVLTOR PIENTISIMVS AEQVI

Mae eglwys Llangors yn Sir Frycheiniog wedi ei chysegru iddo. Credir mai 22 Tachwedd yw dyddiad cywir ei ŵyl.

Mae'n debyg mai ef oedd ym meddwl Saunders Lewis wrth greu'r cymeriad Paulinus yn y ddrama Buchedd Garmon.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • G. H. Doble. (1971). Lives of the Welsh Saints, gol. D. Simon Evans.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]