Paulinus Aurelianus

Oddi ar Wicipedia
Paulinus Aurelianus
Ganwyd492 Edit this on Wikidata
Teyrnas Morgannwg Edit this on Wikidata
Bu farw573 Edit this on Wikidata
enez-Vaz Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
Swyddesgob Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl12 Mawrth, 10 Hydref Edit this on Wikidata

Sant Cymreig o ddiwedd y 5g oedd Paulinus Aurelianus, a fu'n weithgar yn bennaf yn Llydaw. Ystyrir ef yn un o Saith Sant-sefydlydd Llydaw.

Hanes a thraddodiad[golygu | golygu cod]

Ysgrifennwyd buchedd iddo yn 884 gan Wrmonoc, mynach o Landevenneg yn Llydaw. Dywedir ei fod yn fab i bendefig o'r enw Perphirius, a gysylltir a Phenychen ym Morgannwg. Bu'n astudio yn ysgol Illtud yn Llanilltud Fawr, lle roedd Dewi, Samson a Gildas yn astudio ar yr un pryd. Aeth i fyw fel meudwy yn Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin pan oedd yn 16 oed, yna aeth i "Gaer Banhed" yng Nghernyw, ac yn nes ymlaen symudodd i Lydaw.

Eglwys gadeiriol Kastell Paol

Ef a sefydlodd esgobaeth Kastell-Paol (Ffrangeg: St. Pol-de-Léon), a bu'n gweithio yn Llydaw hyd ei farwolaeth ar Enez-Vaz. Mae ei hanes wedi'i gymysgu i raddau a hanes "Paulinus" arall, Peulin, a chred rhai ysgolheigion mai'r un yw'r ddau. Ymddengys, fodd bynnag, fod Paulinus Aurelianus ychydig yn iau na Pheulin.

Mae ganddo ddau ddydd gŵyl, 12 Mawrth a 10 Hydref.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]