Tro Breizh

Oddi ar Wicipedia

Pererindod Gatholig sy'n dilyn llwybr trwy saith tref a gysylltir â Saith Sant-sefydlydd Llydaw yw Tro Breizh (Llydaweg am "Tro [yn] Llydaw"). Mae'n cofio gwaith cenhadol y mynachod Celtaidd a aeth drosodd o Gernyw a Chymru i Lydaw tua troad y 6g i gyflwyno'r Gristnogaeth i Lydaw a sefydlu'r esgobaethau cyntaf yno.

Taith gerdded 600 km (370 milltir) yn para am fis oedd y Tro Breizh yn wreiddiol. Pan gafodd ei hadfer yn 1994 gan gymdeithas Les Chemins du Tro Breizh ("Llwybrau'r Tro Breizh"), cwtogwyd y siwrnai i gylch wythnos gan ymweld a'r trefi canlynol yn eu tro:

Yn 2002, ar ôl cwblhau'r bererindod saith rhan, symudodd y Tro i Gymru i ddathlu cysylltiadau Cymreig y seintiau hyn.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.