Paulinus Aurelianus
| Paulinus Aurelianus | |
|---|---|
| Ganwyd | 492 Teyrnas Morgannwg |
| Bu farw | 573 enez-Vaz |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | henuriad |
| Swydd | esgob |
| Dydd gŵyl | 12 Mawrth, 10 Hydref |
Sant o Gymru o ddiwedd y 5g oedd Paulinus Aurelianus, a fu'n weithgar yn bennaf yn Llydaw. Ystyrir ef yn un o Saith Sant-sefydlydd Llydaw.
Hanes a thraddodiad
[golygu | golygu cod]Ysgrifennwyd buchedd iddo yn 884 gan Wrmonoc, mynach o Landevenneg yn Llydaw. Dywedir ei fod yn fab i bendefig o'r enw Perphirius, a gysylltir a Phenychen ym Morgannwg. Bu'n astudio yn ysgol Illtud yn Llanilltud Fawr, lle roedd Dewi, Samson a Gildas yn astudio ar yr un pryd. Aeth i fyw fel meudwy yn Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin pan oedd yn 16 oed, yna aeth i "Gaer Banhed" yng Nghernyw, ac yn nes ymlaen symudodd i Lydaw.

Ef a sefydlodd esgobaeth Kastell-Paol (Ffrangeg: St. Pol-de-Léon), a bu'n gweithio yn Llydaw hyd ei farwolaeth ar Enez-Vaz. Mae ei hanes wedi'i gymysgu i raddau a hanes "Paulinus" arall, Peulin, a chred rhai ysgolheigion mai'r un yw'r ddau. Ymddengys, fodd bynnag, fod Paulinus Aurelianus ychydig yn iau na Pheulin.
Mae ganddo ddau ddydd gŵyl, 12 Mawrth a 10 Hydref.