Tudwal
| Tudwal | |
|---|---|
| Ganwyd | 490 Dinbych-y-pysgod |
| Bu farw | 564 Landreger |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | henuriad |
| Swydd | esgob, abad |
| Dydd gŵyl | 1 Rhagfyr |
| Mam | Santes Cwpaia |
- Erthygl am y sant yw hon. Gweler hefyd Tudwal Tudclyd.
Sant o Lydaw o hanner cyntaf y 6g oedd Tudwal (Lladin: Tudgualus, Llydaweg Tudgual). Yn ôl traddodiad bu farw yn 564. Mae'n un o Saith Sant-sefydlydd Llydaw. Dethlir ei ddydd gŵyl ar y 1af o Ragfyr.

Dywedir ei fod yn fab i Hywel Mawr (Hoel), un o frenhinoedd Llydaw. Teithiodd i Iwerddon i astudio, cyn ymsefydlu fel meudwy ar y lleiaf o'r ddwy ynys a elwir yn awr yn Ynysoedd Tudwal ger Penrhyn Llŷn. Gellir gweld olion priordy ar y lleiaf o'r ddwy ynys, sydd yn ôl traddodiad ar safle clas Tudwal. Mae hefyd draddodiad ei fod wedi treulio cyfnod yn Llanilltud Fawr, a bod sant Curig yn un o'i ddisgyblion yno.
Yn ddiweddarach dychwelodd i Lydaw a sefydlu mynachlog dan nawdd ei gefnder, Deroch, brenin Domnonia. Dywedir iddo gael ei wneud yn esgob Tréguier ar anogaeth Childebert I, brenin y Ffranciaid. Ei ddydd gwylmabsant yw 1 Rhagfyr. Dywedir i'w greiriau gael eu trosglwyddo i Laval, Mayenne, Ffrainc yn 870 neu 878.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Tro Breizh, pererindod yn Llydaw
- Ynysoedd Tudwal