Padarn
Padarn | |
---|---|
Ganwyd | 5 g Cymru |
Bu farw | 15 Ebrill 510 Gwened |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Blodeuodd | 560 |
Swydd | esgob esgobaethol |
Dydd gŵyl | 15 Ebrill, 21 Mai |
Plant | Eurfyl ach Padarn |
Santo Gymru neu Lydaw oedd Padarn, Lladin: Paternus (bl. naill ai tua OC 560 neu 15 Ebrill 510[1] Dethlir ei Ŵyl mabsant ar 16 Ebrill.
Eglwysi
[golygu | golygu cod]Enwyd nifer o eglwysi yng Ngheredigion a Powys ar ei ôl; yr enwocaf ohonynt yw Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth. Eglwysi eraill yw Llanbadarn Odwyn a Llanbadarn Trefeglwys yng Ngheredigion a Llanbadarn Fynydd a Llanbadarn-y-garreg ym Mhowys. Mae gweddillion hen eglwys y dywedir ei bod wedi ei chysegru iddo ger Llanberis yng Ngwynedd, felly mae'n debyg mai ef a roddodd ei enw i Lyn Padarn a Dolbadarn gerllaw.
Buchedd Padarn
[golygu | golygu cod]Mae'r unig fuchedd iddo, yn y casgliad B.M. Vespasian A, xiv, yn ddiweddar. Dywedir yno ei fod yn frodor o Lydaw, ond cred G. H. Doble nad yw hyn yn gywir, ac mai brodor o dde-ddwyrain Cymru ydoedd yn ôl pob tebyg. Mae'r enw Lladin "Paternus" yn un cyffredin, a chredir fod hanes Padarn wedi ei gymysgu ag o leiaf ddau sant o Lydaw sy'n dwyn yr un enw. Mae Patern, esgob Gwened yn un o Saith Sant-sefydlydd Llydaw.
Eglwysi a gysegrwyd i Padarn
[golygu | golygu cod]Rhestr Wicidata:
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Vitae Sanctorum Britanniae et Genealogiae. ed. A. W. Wade-Evans. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1944.)