Llanbadarn Odwyn
| Math | plwyf |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Padarn |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Ceredigion |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 52.22°N 4.1058°W |
| Gwleidyddiaeth | |
![]() | |
| Crefydd/Enwad | Anglicaniaeth |
| Esgobaeth | Esgobaeth Tyddewi |
Plwyf gwledig o ffermydd ar wasgar ar y bryniau yng nghanolbarth Ceredigion yw Llanbadarn Odwyn. Fe'i lleolir ym mlaenau Dyffryn Aeron, rhwng Llangeitho i'r gorllewin a Thregaron i'r dwyrain.
Canolfan y plwyf yw eglwys hynafol Llanbadarn Odwyn, sy'n adfail bellach. Saif tua 550 troedfedd i fyny yn y bryniau ar ymyl Sarn Helen, y ffordd Rufeinig sy'n cysylltu caer Segontium yn y gogledd a Maridunum (Caerfyrddin) yn y de (mae lôn y B4578 yn dilyn cwrs Sarn Helen heddiw ac yn myn heibio i'r eglwys). Mae ar hen groesffordd ganoloesol. Tua dau ganllath i'r gorllewin ceir bryngaer Pen y Gaer.
Yn ôl traddodiad sefydlwyd yr eglwys gan Sant Padarn. Ceir Llech-badarn a Phentre-badarn gerllaw. Mae'n bosibl fod y bardd canolesol Phylip Brydydd (fl. 1222) yn frodor o'r ardal.
Mae hynafiaethau eraill yn y plwyf yn cynnwys capel Llwyn-piod, a godwyd yn 1735 gan Phylip Hugh, un o foneddigion yr ardal a fu mor gefnogol i Ddaniel Rowland.
Ffynhonnell
[golygu | golygu cod]- T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Llyfrau'r Dryw, 1952)
