Llyn Padarn
![]() | |
Math |
llyn, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Gwynedd ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
119.13 ha ![]() |
Cyfesurynnau |
53.1289°N 4.1331°W ![]() |
Hyd |
3.2 cilometr ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth |
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |

Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Padarn. Saif yn Eryri, gyda llyn arall, Llyn Peris fymryn i'r de-ddwyrain. Mae'n 280 acer o arwynebedd, tua dwy filltir o hyd a 94 troedfedd yn y man dyfnaf. Saif tref Llanberis ar y lan ddeheuol a phentref Brynrefail lle mae Afon Rhythallt yn llifo allan o'r llyn. Wedi iddi lifo dan Bont Rhythallt yn Llanrug, mae'r afon yma yn newid ei henw i Afon Seiont ac yn cyrraedd y môr yng Nghaernarfon.
Daw'r enw o sant Padarn, a gelwir y tir rhwng y llyn yma a Llyn Peris yn Dolbadarn. Yma mae Castell Dolbadarn ar godiad tir rhwng y llynnoedd. Ar lan gogleddol y llyn mae Parc Gwledig Padarn, ac mae Rheilffordd Padarn yn arwain ar hyd y lan ogleddol, yn cychwyn o'r Parc. Yn wreiddiol defnyddid y rheilffordd yma i gario llechi o Chwarel Dinorwig i'r Felinheli. Mae Amgueddfa Llechi Cymru yma hefyd, yn hen weithdai Chwarel Dinorwig yn y Gilfach Ddu.
Yn y 18g roedd diwydiant copr yn Nant Peris, a byddai'r copr yn cael eu gario mewn cychod ar hyd Llyn Padarn. Y mwyaf adnabyddus o'r bobl oedd wrth y gwaith yma oedd Marged uch Ifan, a ddaeth yn rhan o draddodiad gwerin. O blith pysgod y llyn, y mwyaf nodedig yw'r Torgoch.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)