Kemper

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Quimper
Kemper
Quimper2011.png
Arfbais Quimper
Arfbais
Quimper is located in France
Quimper
Cyfesurynnau: 47°59′48″N 4°05′47″W / 47.9967°N 4.0964°W / 47.9967; -4.0964Cyfesurynnau: 47°59′48″N 4°05′47″W / 47.9967°N 4.0964°W / 47.9967; -4.0964
Gwlad Ffrainc
Rhanbarth Llydaw
Département Finistère
Arrondissement Quimper
Intercommunality Quimper
Arwynebedd1 84.45 km2 (32.61 mi sg)
Poblogaeth (2008)2 63,929
Cylchfa amser CET (UTC+1)
 • Haf (DST) CEST (UTC+2)
1 Data o Gofrestr Tir Ffrainc, sy'n hepgor llynnoedd, pyllau, rhewlifau > 1 km² (0.386 sq mi neu 247 erw) ac aberoedd yr afonydd.
2 'Poblogaeth heb "gyfri dwbwl": trigolion mwy nag un gymuned (e.e. myfyrwyr a milwyr - cyfrifwyd unwaith yn unig.

Cymuned a thref Llydaw yw Kemper (Ffrangeg: Quimper; Lladin: Corspotium). Kemper yw prifddinas département Penn-ar-Bed, a hen brifddinas Bro Gerne.

Mae kemper yn air Llydaweg sy'n cyfateb i'r gair "cymer" (afonydd) yn Gymraeg; mae Afon Steir, Afon Oded ac Afon Jet yn cyfarfod yma. Mae hanes y dref yn mynd yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid. Erbyn 495 roedd y dref yn esgobaeth. Yr adeiladau mwyaf nodedig yw Eglwys Locmaria, sy'n dyddio o'r 11eg ganrif, a'r eglwys gadeiriol a adeiladwyd rhwng y 13eg ganrif a'r 16eg ganrif. Mae'r eglwys gadeiriol wedi ei chysegru i Sant Corentin, esgob cyntaf Kemper; o'i blaen ceir cerflun yn dangos Gralon, brenin Kêr-Ys, ar gefn ceffyl yn edrych i gyfeiriad ei ddinas foddedig.

Poblogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Population - Municipality code 29232

Twristiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r dref yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ac yn adnabyddus am ei chrochenwaith. Mae dwy ysgol Diwan yn y dref.

Mae'n un o'r drefi ar lwybr pererindod y Tro Breizh.

Galeri[golygu | golygu cod y dudalen]

Pobl o Kemper[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: