Limerick
Gwedd
| Arwyddair | Urbs Antiqua Fuit Studiisque Asperrima Belli |
|---|---|
| Math | dinas, dinas weinyddol yng Ngweriniaeth Iwerddon |
| Poblogaeth | 62,702 |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Limerick |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 20.79 km² |
| Uwch y môr | 10 ±1 metr |
| Gerllaw | Afon Shannon |
| Cyfesurynnau | 52.6653°N 8.6238°W |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | office of the Mayor of the City and County of Limerick |
| Corff deddfwriaethol | legislative body of Limerick City and County Council |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Dinas a Sir Limerick |
![]() | |
Prifddinas Swydd Limerick yn nhalaith Munster, Gweriniaeth Iwerddon, yw Limerick (Gwyddeleg: Luimneach).[1] Saif y ddinas ar Afon Shannon, ac roedd y boblogaeth yn 2006 yn 91,000. Saif tua 195 km i'r gorllewin o ddinas Dulyn.
Mae'r ddinas yn ddyddio o leiaf o gyfnod ymsefydliad y Llychlynwyr yn 812, ac mae nifer o'r adeiladau, megis Castell y Brenin John, yn dyddio o'r cyfnod Normanaidd. Roedd yn ddinas o bwysigrwydd strategol yn rhyfeloedd y 17g, a gwarchaewyd arni gan Oliver Cromwell yn 1651. Dirywiodd sefyllfa economaidd y ddinas yn dilyn Deddf Uno 1801 a Newyn Mawr Iwerddon, a dim ond yn ddiweddar mae wedi adfywio.

Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Amgueddfa Hunt
- Castell y Brenin John
- Eglwys gadeiriol Sant Ioan
- Eglwys gadeiriol Santes Fair
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Brian Boru (941-1014), Uchel Frenin Iwerddon
- Catherine Hayes (1825-1861), cantores opera
- Seán Keating (1889-1977), arlunydd
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]Mae'r ddinas yn gartref i dîm rygbi Munster sy'n chwarae yn y Pro14. Maent yn chwarae yn stadiwm Parc Thomond
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
