Afon Shannon

Oddi ar Wicipedia
Afon Llinon
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Cyfesurynnau54.2347°N 7.919°W, 52.6767°N 8.7545°W Edit this on Wikidata
AberAber Afon Llinon Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Inny, Afon Feale, Afon Suck, Afon Brosna, Afon Brosna Bach, Afon Boyle Edit this on Wikidata
Dalgylch15,700 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd368 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad200 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
LlynnoeddLough Ree, Loch Deirgeirt Edit this on Wikidata
Map

Afon fwyaf Iwerddon yw Afon Shannon (Gwyddeleg: An tSionainn).[1] Yn cynnwys yr aber, mae'n 386 km (240 milltir) o hyd. Mae'n debyg mai'r afon yma yw Afon Llinon y cyfeirir ati yn chwedl Branwen ferch Llŷr ym Mhedair Cainc y Mabinogi.

Cwrs Afon Shannon

Mae'r afon yn rhannu gorllewin a dwyrain yr ynys; dim ond mewn llai nag ugain man y gellir ei chroesi rhwng Carrick on Shannon yn y gogledd a'i haber ger Limerick, lle mae'n ymuno â Môr Iwerydd.

Yn draddodiadol, ceir tarddle'r afon yn y Shannon Pot, pwill bychan ar lechweddau Mynydd Cuilcagh yn Swydd Cavan. Mae'n llifo trwy 13 o siroedd Iwerddon, a thrwy nifer o lynnoedd, yn cynnwys Lough Allen, Lough Ree a Lough Derg.

Yr afon ger Carrick-on-Shannon

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022