Brian Boru
Brian Boru | |
---|---|
Ganwyd | 941 Cill Dalua |
Bu farw | 23 Ebrill 1014 Clontarf |
Dinasyddiaeth | Kingdom of Munster |
Swydd | Uchel Frenin Iwerddon, King of Munster |
Dydd gŵyl | 12 Mawrth |
Tad | Cennétig Mac Lorcáin |
Mam | Bé Binn inion Urchadh |
Priod | Gormflaith ingen Murchada, Mor (?), Echrad (?), Dub Choblaig (?) |
Plant | Donnchad mac Briain, Tadc Mac Briain, Sláine ingen Briain, Murchad mac Briain, Dearbforgail (?) |
Uchel Frenin Iwerddon oedd Brian mac Cennétig, Brian Bóruma neu Brian Boru (c. 941 - 23 Ebrill 1014).
Roedd yn fab i Cennétig mac Lorcain. Gwnaeth ei hun yn frenin Munster, yna concrodd Leinster i ddod a'r cyfan o dde Iwerddon dan ei reolaeth. Daeth yn Uchel Frenin yn 1002, pan gydnabyddwyd ef gan Máel Sechnaill mac Domnaill, brenin yr Uí Néill.
Roedd Iwerddon wedi ei rhannu yn nifer o deyrnasoedd annibynnol; a symbolaidd oedd swyddogaeth Uchel Frenin Iwerddon yn bennaf. Ceisiodd Brian Boru newid hyn, a gwneud ei hun yn wir reolwr Iwerddon. Ymladdwyd Brwydr Clontarf ar Ddydd Gwener y Groglith (23 Ebrill), 1014, rhwng Brian a byddin Brenin Leinster, Máel Mórda mac Murchada, oedd yn cynnwys llawer o Lychlynwyr Dulyn dan arweiniad cefnder Máel Mórda, Sigtrygg Farf Sidan (un o hynafiaid Gruffudd ap Cynan). Bu byddin Brian Boru yn fuddugol, ond lladdwyd ef ei hun gan nifer fychan o Lychlynwyr a ddaeth ar draws ei babell yn ddamweiniol wrth ffoi o faes y gad. O ganlyniad, ymrannodd Iwerddon yn nifer o deyrnasoedd annibynnol eto.