Y Fad Felen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Pla mawr yn y 6g oedd Y Fad Felen neu'r Fall Felen (hefyd 'Pla Melyn'). Yr enw Gwyddeleg arni oedd Crón Chonnaill ('y clefyd melynddu'), neu Buidhe Chonnaill ('y clefyd melyn'). Yr enw Saesneg oedd "The Yellow Plague of Rhos".[angen ffynhonnell]

Cofnoda'r Annales Cambriae iddi ladd Maelgwn Gwynedd, brenin Gwynedd a nifer o bobl eraill yn y flwyddyn 547:

Mortalitas magna in qua pausat Mailcun rex Genedotae. Unde dicitur, 'Hir hun Wailgun en llis Ros.' Tunc fuit wallwelen.'[1]

Mae'r llawysgrif gynnar Llyfr Llandaf yn cyfeirio at i hefyd, dan yr enw flaua pestis (gyda'r glos 'Y Vall Velen'). Roedd yn lladd meddyg a chlaf fel ei gilydd ac yn gadael y wlad yn anghyfannedd.[2]

Yn ôl traddodiad llên gwerin cuddiodd Maelgwn yn Eglwys Rhos (rhwng Degannwy a Llandudno). Gwelodd y Fad Felen (sy'n fath o anghenfil ddinistriol yn y traddodiad Cymreig) drwy dwll clo'r eglwys a disgynodd i'r llawr yn gelain yn y fan. Daeth y llinell a ddyfynnir yn yr Annales Cambriae yn ddihareb: 'Hir hun Maelgwn yn llys (neu 'eglwys') Rhos'. Mae Gildas yn dweud mai hon oedd un o'r tair cosb enbyd a roddai Duw ar y Brythoniaid i ddial eu camweddau.

Ceir nifer o gyfeiriadau at y Fad Felen yng ngwaith y beirdd, er enghraifft gan Iolo Goch a Iorwerth Fynglwyd. Yn ôl Thomas Pennant yn ei Tours in Wales, 'yr oedd (y Fad Felen) i gymeryd naill ai ffurf sarff gribog... neu ynte ar lun benyw brydferth, yr hon a laddodd Maelgwyn gyda chipdrem.'[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. John Morris (gol.), Nennius: British History, and The Welsh Annals (Llundain, 1980).
  2. J. Gwenogvryn Evans (gol.), The Text of the Book of Llan Dâv (1893), t. 131.
  3. Thomas Pennant, Teithiau yng Nghymru (Caernarfon, 1883), t. 440.