Iorwerth Fynglwyd

Oddi ar Wicipedia
Iorwerth Fynglwyd
Ganwyd15 g Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1485, 1527 Edit this on Wikidata
TadRhisiart Iorwerth Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg oedd Iorwerth Fynglwyd (fl. 1485 - 1527), a thad Rhisiart Iorwerth (Rhisiart Fynglwyd). Roedd yn perthyn i'r dosbarth o feirdd proffesiynol a adnabyddir heddiw fel Beirdd yr Uchelwyr. Cafodd ei eni a'i fagu yn Saint-y-brid ym Morgannwg. Roedd yn gyfoeswr i'r beirdd Tudur Aled a Lewys Môn.[1]

Cerddi[golygu | golygu cod]

O blith y cerddi gan Iorwerth sydd wedi goroesi, mae'r rhan fwyaf yn gerddi mawl i uchelwyr Morgannwg a Gwent ac fe'i cysylltir yn arbenig gyda theulu grymus yr Herbertiaid, arglwyddi Rhaglan.[2]

Cedwir sawl cerdd ymryson barddol ganddo hefyd, ynghyd â cherdd dychan i'r clerwr lleol Siôn Lleision a marwnad i'r bardd Wiliam Egwad.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Howell Ll. Jones a E. I. Rowlands (gol.). Gwaith Iorwerth Fynglwyd, rhagymadrodd.
  2. Mric Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.