Tudur Ddall

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Tudur Ddall (bl. diwedd y 14g a dechrau'r 15fed).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Gellir derbyn fod ei lysenw yn cyfeirio at y ffaith ei fod yn ddall neu fod rhyw nam ar ei lygaid ond dylid cofio y bu'n arfer gan y beirdd roi llysenwau difrïol ar ei gilydd hefyd.[1]

Ychydig a wyddom am y bardd ac rydym yn dibynnu yn bennaf ar dystiolaeth yr unig gerdd o'i waith sydd ar glawr heddiw am ein gwybodaeth. Cedwir y gerdd hon mewn rhan o Lyfr Coch Hergest ac ychwanegwyd ato tua'r flwyddyn 1400 pan fu ym meddiant Hopcyn ap Tomas o Ynysforgan. Rhaid felly ei fod yn ei flodau cyn hynny.[1]

Englyn proest estynedig o chwe llinell yw'r mesur. Mae'r bardd yn gwyrdroi'r confensiwn o foli tai newydd a noddwyr hael: lle myglyd a budr, anhygyrch, gyda pherchennog crintalchlyd digroeso yw'r tŷ.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, 2002). ISBN 0-947531-71-8

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, 2002).